Felin yn yr het i’r Ail Rownd 

Ennill yng Nghyffordd Llandudno

gan Gwilym John
IMG_9849

Hedar Aled “Pob” Griffith yn rhoi Felin 2-0 i fyny ar ol 42 munud

IMG_9953

Euron, y rheolwr, yn pendroni os oedd angen dod a Iwan Bonc ymlaen, o flaen cefnogwyr Felin

Tlws Amateur Cymru, Rownd 1

Cyffordd Llandudno 1 Felin 2

Roedd hon yn gêm ddyla fod Felin wedi ei hennill gan fod Junction yn chwarae ym mhedwaredd haen y pyramid Cymraeg, un o dan Felin. Ac er fod sawl chwaraewr ar goll i Felin, a gyda Al Hughes (sydd ddim yn golgeidwad) yn chwarae yn y gôl, Felin oedd y ffefrynnau clir i fynd ymlaen yn y gystadleuaeth. Roedd dau o hogiau Felin, Ryan Cain a’r golgeidwad Guto, yn cynrychioli Cymru yn erbyn yr Iwerddon, gem gyfeillgar i dîm “Ardaloedd” Cymru. Felly da iawn nhw. A nifer o rai eraill wedi gydag anafiadau.

Roedd goliau gan Gavin ac Aled Pob yn yr hanner cyntaf yn ddigon i ennill y gêm. Er i Felin fod yn hollol gyffyrddus drwy rhan fwyaf o’r gêm, newidiodd pethau pan sgoriodd y tîm cartref, ychydig yn annisgwyl, gyda ryw 10 munud yn weddill. Aeth hi chydig yn nerfus ar Felin, a braf oedd cael clywed y chwiban olaf.

Mae Felin wedi llwyddo yn y cwpannau hyd yma, ond mae angen pigo pwyntiau i fyny yn y gynghrair. A ni fydd y gêm nesaf, yn Ninbych nos Wener y 9ed, ddim haws.