Felin yn gorffen yn 11eg yn y tabl

Ymdrech fawr yn Llanuwchllyn ond methu sicrhau pwynt er mwyn bod yn 10ed

gan Gwilym John

Cynghrair Ardal Fit Lock Gogledd Orllewin

Llanuwchllyn 3 Felin 2

Gem olaf y tymor oedd hon i Felin gyda fawr ddim ar y gêm heblaw am y cyfle o orffen yn y 10ed safle yn y tabl, ac angen gêm gyfartal yn unig i gyflawni hyn.

Aeth y tim cartref ar y blaen yn gynnar yn y gêm, ond daeth gôl Iwan Bonc a Felin yn gyfartal yn fuan wedyn. Llanuwchllyn aeth i fewn am eu panned hanner amser 2-1 ar y blaen ar ol hanner cyntaf cystadleuol a difyr iawn.

Aeth Felin amdani yn yr ail hanner, ond cafwyd camddealldwriaeth mawr yn yr amddiffyn, yn rhoi “tap-in” hawdd i Llan i’w gwneud hi yn 3-1. Ond mae Iwan Bonc wedi dod i fewn i fform da yn ddiweddar, a’i gol yn fuan wedyn yn dod a Felin i 3-2.

Felin oedd yn rheoli am weddill y gêm, ond er dod yn agos ar sawl achlysur, toedd hi ddim i fod. Al Em yn taro’r trawst, Connor yn taro’r postyn, Guto y gôli yn dod i helpu’r ymosodwyr mewn dwy gic cornel yn yr eiliadau olaf. Ond gorfod bodlonni ar yr 11eg safle bu rhaid i Felin.

Tymor llwyddiannus ar y cyfan, a’r hogiau yn haeddu bod yn uwch yn y tabl ar ol perfformiadau gwych ar ol y Nadolig. Diolch i Islwyn Bonc a Lenny am edrych ar ol y tîm yn dilyn salwch Euron, y rheolwr. A gobeithio yn wir cawn ei weld yn ol yn y “dug-out” y tymor nesaf.