Felin yn fuddugol yng Nghwpan Cymru

cael a chael oedd hi yn erbyn CPD Y Glannau

gan Gwilym John

Cwpan Cymru, Rownd 1

Felin 1  CPD Y Glannau 1    Felin yn ennill 4-2 ar ol ciciau o’r smotyn

Cael a chael oedd hi, er i Felin gael ddigon o gyfleon i fod wedi ennill y gêm cyn hanner amser. Jack Cain yn sgorio i Felin, yn derbyn croesiad gan ei frawd Ryan (a’u tad yn recordio’r cwbl! gweler uchod)

Ond daeth Y Glannau, tim Cymreig o ochrau Clwyd, yn ol yn gryf yn yr ail hanner. Daethant yn gyfartal ar ol i un o amddiffynwyr Felin lawio y bel a rhoi penalti i ffwrdd, chydig yn anlwcus. Cafwyd sawl cyfle, gyda’r ddau dîm yn euog o’u gwastraffu. Daeth y 90 munud i ben, ac yn ol rheolau y gwpan ddyddiau hyn, aeth hi yn syth i giciau o’r smotyn.

Gyda’r ddau dîm wedi claddu eu dwy benalti cyntaf, twrn goli Felin oedd hi i ddisgleirio, yn safio trydydd cic yr ymwelwyr. A gyda pedwerydd penalti Y Glannau yn taro’r bar, dim ond sgorio oedd rhaid i Dylan a rhoi Felin i fewn i’r het i’r rownd nesaf. 

Efallai mai sêf Guto oedd yr un mwyaf gwerthfawr yn ei yrfa, gan i Felin dderbyn gwobr ariannol gan y Gymdeithas Beldroed am ennill (fel pob clwb arall aeth drwodd). 

Ac er eu siom, cafodd hogiau CPD Y Glannau ddigon o hwyl wedyn i lawr yn y Gardd Fon. A bydd hogia Felin yn disgwyl yn eiddgar i weld pwy fydd hi yn y rownd nesaf.

Yn ol i’r gynghrair Sadwrn nesaf, gyda gêm gartref yn erbyn Llandudno Albion, gem yn cychwyn 2:30pm. Fydd rhai o’r sgwad wedi bod ym Mrwsel nos Iau yn cefnogi eu gwlad, felly gobeithio fydda nhw yn ol heb ei gor-wneud hi, ynte.