Felin drwodd i rownd nesaf Cwpan Cymru

Trechu Llanystumdwy yn y rownd rhagbrofol gyntaf

gan Gwilym John
20220723_140914_Moment

Gruff John yn sgorio gol gyntaf Felin

20220723_142938_Moment

Rhys “Archie” Parry yn cael yr ail gol

20220723_151208_Moment

Aled “Pob” Griffith yn gwneud y gêm yn saff i Felin

Cwpan Cymru Rownd rhagbrofol 1

25/7/22

Llanystumdwy 1 Felin 4

Chwaraewyd y gêm wythnos yn gynnar, diolch i bwyllgor Llanystumdwy am gytuno i’w newid yn dilyn cais gan bwyllgor Felin (rhan fwyaf o’r sgwad ddim ar gael y Sadwrn yma oherwydd stag dw Lenny!).

Ar y diwrnod gwlypaf ers wythnosau, a gyda’r gwair angen ei dorri, a cae y pentef yn Eifionnydd yn un ddigon anodd i chwarae arno pan mae o ar ei orau, cafwyd perfformiad clinigol gan hogiau Felin i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.

Setlwyd y nerfau pan rwydodd Gruff John gôl wych iawn ar ol 9 munud gydag ergyd i gornel uchaf y gol efo tu allan ei droed dde. Llwyddodd Felin i chwarae peldroed deniadol ar adegau ar gae anodd. Rhys “Archie” Parry sgoriodd y nesaf ar ol 29 munud, yn cymeryd ei gyfle yn daclus iawn; 2-0 hanner amser.

Ymdrechodd y tim cartref yn galed, ond ryw chwarter awr i fewn i’r ail hanner, aeth Felin 3-0 ar y blaen gyda Aled “Pob” Griffith yn claddu pel rydd i do y rhwyd, (gweler y fideo). A thri munud yn ddiweddarach, roedd y gêm ar ben i pob pwrpas pan sgoriodd Gruff o’r smotyn ar ol cael ei dynnu i lawr gan y golgeidwad.

Llwyddodd Llanystumdwy gael un gol yn y munudau olaf i’w gwneud hi yn 1-4. Felin ymlaen felly i’r ail rownd rhagbrofol, gyda’r gwrthwynebwyr yn cael ei benderfynnu wythnos nesaf.

Dim gêm y Sadwrn yma (Gorff 30in), ond bydd y gynghrair yn cychwyn y Sadwrn wedyn, gyda Felin yn teithio i Benarlag i chwarae newydd ddyfodiaid i’r gynghrair Hawarden Rangers.