Felin drwodd i rownd gyntaf Cwpan Cymru

curo Aberffraw 4-0

gan Gwilym John

Cwpan Cymru 2il Rownd Rhagbrofol

Felin 4 Aberffraw 0

Dydd Sadwrn, Awst 20ed

  Hanner cyntaf ddigon bler o ran Felin, efallai oherwydd fod yr ymwelwyr yn ei gwneud hi yn anodd, yn pwyso ac yn ceisio gwneud argraff. Dylan sgoriodd unig gôl yr hanner, ar ol 35 munud, yntau i fyny am gic gornel, ond cymerwyd y gornel yn sydyn. Gwnaeth Tom yn dda i groesi a dyna lle oedd Dyl i gael tap in ddigon hawdd. Roedd angen gôl i dawelu y nerfau.

Roedd Rhys wedi cael bod yn y gôl er mwyn cael tipyn o amser ar y cae, a daeth Guto allan yn ei le yn yr ail hanner fel a gytunwyd. Roedd llawer gwell pwrpas i chwarae Felin yn yr ail hanner gyda Iw Bonc, a wedyn Gavin yn dod yn agos yn y munudau cyntaf. Ond cymerodd hi at y 60 munud i Felin fynd ymhellach ar y blaen, Gavin yn taro foli dda o fflic-on Tom. Bron iddo gael un arall munudau yn ddiweddarach, gyda goli Aberffraw yn safio yn gyffyrddus. Gôli bach ei faint, ond effeithiol iawn.

A dangosodd o pa mor dda oedd o pan safiodd shot nerthol gan Iw Bonc ar ol 68 munud. Ond yn syth wedyn, o’r gic gornel gan Ryan, roedd Llion yn y lle iawn i benio’r bêl i’r rhwyd,    3-0, a’r gêm erbyn hyn yn saff i Felin. Dwy o’r gôls gan ddau amddiffynnwr canol, gyda’r llaw. Meddwl faswn i yn crebwyll y ffaith yna!

Daeth Adam ac Al Em ymlaen i’r cae yn lle Ryan ac Ifan Dafydd. Mae gan Al y “knack” o fod yn y lle iawn ar yr amser iawn, ac efo tipyn o lwc mi fasa fo wedi medru sgorio hatric yn ei bum munud cyntaf. Ond rhaid iddo ddisgwyl tan injyri teim i sgorio, yn ei gwneud hi yn  4-0.

Roedd Aberffraw, o bumed haen y pyramid, wedi rhoi gêm galed i Felin yn yr hanner cyntaf, ond rhedeg allan o stem fel aeth y gêm yn ei blaen. Buddugoliaeth dda i Felin felly, ac un oedd gwir ei hangen ar ol colli tair gêm ar y trot yn ddiweddar. Codi’r ysbryd ryw chydig, ynte.

Ymlaen i’r rownd gyntaf (ar ol chwarae dwy rownd rhagbrofol), ac ymweliad i Gae Seilo gan clwb “Y Glannau”, sef clwb o Gymry Cymraeg i lawr yr A55 i’r Gogledd Ddwyrain. Edrychwn ymlaen i’w croesawu.  

Felin: Rhys Edwards (Guto Hughes 46); Ifan Dafydd (Al Em 74), Dylan Jones, Llion Jones, Ryan Cain (Adam 74); Connor, Tom, Iwan Edwards; Gavin Lloyd-Jones, Iwan Bonc, Archie (Jack 66)

Crowd: 65