CPD Felin ddim yn haeddu colli 4-0

Yn y gêm tan y pum munud olaf

gan Gwilym John

Cynghrair “FitLock” Ardal Gogledd Orllewin

Rhyl 4 Felin 0

Tydi’r sgor terfynnol ddim yn edrych yn dda iawn, ond nid oedd y sgor yn adlewyrchu ymdrech yr hogia. Yn wir, gyda Rhyl 1-0 ar y blaen, Felin oedd yn edrych mwyaf tebygol o sgorio, ac chael pwynt am eu hymdrechion. Ond er i sawl ymdrech ddod yn agos, toedd hi ddim i fod. Gweler fideos uchod- ymdrechion Felin i drio dod â’r gêm yn gyfartal.

Sgoriodd Rhyl dair gôl ym mhedwar munud olaf y gêm i gladdu pob gobaith oedd gan Felin. Tair gôl reit dda i fod yn deg. Ond roedd blinder yn dechrau dweud, a nid oedd fainc llawn ar gael i’r tim oddicartref (am wahanol resymmau), o cholled o  4-0 fydd yn cael ei gofnodi yn y llyfrau swyddogol.

Fydd mis cyntaf Felin yn y gynghrair yn un i anghofio felly, ar ol cychwyn yn dda, yn ennill ym Mhenarlag ar y Sadwrn cyntaf, ond colli pedair wedyn. Rhaid cofio fod dwy o’r rheini oddicartref ym Mangor ac yn Rhyl, dwy gêm nad oedd llawer yn disgwyl cael dim p’run bynnag. Ond colli gartref yn erbyn Nantlle Vale a wedyn clec gan Brickfield, rheini oedd yn brifo.

Gwella wneith pethau…..