CPD Felin yn colli yn y ddarbi fawr

Bangor1876 yn sgorio pump

gan Gwilym John

Cynghrair Ardal “Fitlock” Gogledd Orllewin

Bangor1876 5 Felin 0

Nos Fawrth, Awst 16eg

Toedd hon byth yn mynd i fod yn hawdd, nag oedd. Tîm pentref bach yn erbyn tîm y ddinas fawr efo lot o bres i wario. Ond er fod yr ods wedi stacio yn erbyn Felin, rhoddodd yr hogia berfformiad llawn ymroddiad ac angerdd 

Aeth Bangor amdani o’r dechrau, yn cau i lawr yn sydyn, yn pasio’r bel yn chwim, ac yn lluchio peli hir dros yr amddiffyn i’w blaenwyr cyflym. Daeth y gôl gyntaf ar ol 12 munud, Corrig McGonigle yn sgorio. Edrychai fel noson hir ac anodd i Felin, ond daeth Felin yn ol yn gryf. Yn wir, crewyd sawl cyfle a bu rhaid i gôli Bangor fod ar flaenau ei draed. Bu Gavin yn anlwcus efo ffrî cic, a bron i Dylan sgorio efo’i ben.

Roedd amddiffyn Felin a Guto yn gôl yn delio yn dda gyda bygythiad llinell flaen y tim cartref. Ond gyda ryw 10 munud i fynd cyn hanner amser, cafodd Guto slap go hegar yn ei ben, a bu i lawr am sbel cyn codi. Ond diolch byth ei fod yn foi caled, a roedd o yn ol ar ei draed ar ol chydig o driniaeth. 

Ond reit yn nechrau’r ail hanner, aeth hi’n 2-0, Liam Morris yn sgorio. Tolc enfawr i hunan hyder Felin. Ond setlodd pawb i lawr a gwneud gêm ohoni am rhan fwyaf o’r ail hanner.

Aeth hi’n 3-0 ar ol 69 munud, gyda Corey Jones yn penio i fewn ar y postyn pellaf, hogia ni yn anlwcus i beidio clirio. A deg munud wedyn, rhoddodd y reff benalti, gyda If Em chydig yn anlwcus yn clipio troed yr ymosodwr wrth iddo droi, McGonigle yn sgorio o’r smotyn.

Bu rhaid i Ifan Em adael y cae yn fuan wedyn gydag anaf, Adam yn dod yn ei le. Ac aeth hi yn 5-0 gyda’r gêm bron ar ben, Liam Morris yn sgorio ei ail gôl.  

Roedd FElin wedi gweithio yn galed ac efallai ddim yn haeddu colli o bump gôl. Oedd, roedd Bangor yn eithaf tim, a bydd hi yn anodd i unrhyw dîm yn y gynghrair eu stopio, yn enwedig ar y cae plastic yn Nhreborth. Ond os fydd Felin yn chwarae yn debyg i hyn, mi fyddan yn ok am y tymor.

Felin: Guto Hughes; Jack, Ryan Cain, Dylan Jones, Ifan Emyr (Adam Hughes 85); Connor, Llion Jones, Tom, Iwan Edwards (Al Em 87); Gavin Lloyd-Jones (Iwan Bonc 70), Archie (Ows Em 88)

 Bangor1876: Shaw, Heald (Gethin Thomas 86), Kian Owen, Culshaw, Corey Jones, Tom Clarke (Cian Williams 78), Petri (Galeotti 79), Barry (Dylan Williams), Les Davies, McGonnigle (Ben Owen 86), Liam Morris

Crowd: 363