CPD Felin yn anlwcus unwaith eto

Colli gartref yn erbyn Llandudno Albion

gan Gwilym John

Ionawr 22, 2022

CPD Y Felinheli 2  Llandudno Albion 3

Gêm dda iawn, yn enwedig yn yr hanner cyntaf lle sgoriwyd 5 gôl yn yr hanner awr gyntaf. Felin aeth ar y blaen gyda Gavin yn curo’r golgeidwad gyda shot o 20 medr. Ond yr ymwelwyr yn dod yn ol yn gryf gyda dwy gol mewn 3 munud. Ond Iwan Bonc yn taro yn ol 3 munud yn ddiweddarach gyda gôl fendigedig (gweler y fideo).

Ond ar yr hanner awr, daeth gôl wych iawn gan Albion i’w rhoi ar y blaen. Ac er i Felin drio yn galed yn yr ail hanner, dyna oedd y sgor terfynnol. (Gweler fideo arall am un o gyfleon Felin yn yr ail hanner)

Gêm dda, tyrfa dda, tywydd iawn, cae chydig yn “stici”, Felin yn chwarae yn dda, ond unwaith eto, dim i ddangos am eu hymdrechion. “Parhau i chwarae fel hyn, a mi ddaw y canlyniadau” medda Euron y rheolwr.

(y drydydd fideo- Aled “Pob” y capten yn dangos ei ochor benderfynol)