“Pam ’da chi eisiau gwneud rhywbeth mor drist?”

Sefydlu cwmni angladdau ar y stryd fawr

gan Marian

Louise White a Manon Williams

ffenest-lliw-

Ffenest liw arbennig yr adeilad

Yr adeilad ar stryd fawr Bangor

“Pam ’da chi eisiau gwneud rhywbeth mor drist?” Dyma oedd ymateb teulu Louise White pan ddywedodd ei bod am ymuno gyda’i ffrind Manon Williams i sefydlu cwmni Angladdau Enfys. Y mis hwn mae breuddwyd y ddwy wedi eu gwireddu ac mae’r adeilad ar stryd fawr Bangor wedi ei agor.

Pam sefydlu ar y stryd fawr? Yn ôl Manon “does dim rhaid i drefnwyr angladdau gael eu cuddio.”

Mae’r adeilad wedi ei beintio yn wyrdd hyfryd tu allan gyda ffenest liw amlwg i’w gweld tu mewn, ac mae papur wal blodeuog chwaethus a chadeiriau esmwyth y swyddfa yn ychwanegu at y croeso cartrefol yn yr adeilad.

“Da ni yn ferched ifanc ac am iddo adlewyrchu ni fel pobl. Da ni yn gweithio yma bob dydd felly ddim am iddo fod yn lle tywyll. Lliwgar a hapus ydyn ni, ond dio ddim yn golygu bod ti ddim yn gallu cael sgwrs drist a ‘serious’ mewn adeilad fel hyn.”

Mae Manon a Louise wedi trawsnewid y siop wag oedd ar 133 stryd fawr Bangor i fod yn “lle agored a chroesawgar, mae hwn yn edrych yn wahanol ac yn fan cychwyn ar gyfer y sgwrs ynglŷn â marwolaeth.” Pwnc sy’n parhau yn tabŵ yn ôl y ddwy.

“Da ni yn wahanol, ond da ni yn gallu gwneud y pethau traddodiadol”. Mae modd cael arch bren, un o helyg, cardfwrdd neu arch wedi ei gwneud allan o wlân.

“Mae ’na gymaint o wahanol ffyrdd o bersonoli angladd a chymaint o lefydd gwahanol i’w cynnal ac i ddweud tara”

Fe fu’r ddwy wrthi am flwyddyn yn chwilio am adeilad addas, un oedd yn cynnig ffenest siop ar y stryd fawr yn ogystal â mynediad preifat yn y cefn. Maen nhw wedi derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru ac mae modd gweld y gwaith addasu sydd wedi digwydd ar yr adeilad ar gyfrifon Instagram a Facebook y cwmni.

Mae Manon a Louise wedi rhoi gorau i’w hen swyddi i ail hyfforddi ar gyfer y gwaith arbenigol hwn ac mae’r ddwy yn hapus iawn gyda’u penderfyniad.