Drycin yn Llorio Coeden

“I lawr â hi mewn eiliad!”

Goriad
gan Goriad

Bu’r tywydd garw diweddar yn ormod i un goeden ym Mhen-y-ffridd, Penrhosgarnedd. Cwympwyd y geiriosen gan wynt mawr, gan gau’r ffordd yn rhannol am beth amser, a thorri tair llinell ffôn tai cyfagos.

Meddai Howard Huws, un o’r preswylwyr: “Clywais glec wrth i’r gwraidd dorri, ac i lawr â hi mewn eiliad. Trueni ei cholli: ’roedd yn goeden hardd iawn, yn enwedig yn ei blodau gwynion yn y gwanwyn. Wedi i Adra gael caniatâd cynllunio i godi tai ar dir cyfagos hen faesorsaf y Brifysgol, y peth cyntaf a wnaethant oedd cwympo’r coed cedrwydd mawrion oedd yn cysgodi’r stryd rhag y gwynt, a all fod yn nerthol iawn i fyny yma. Heb y cysgod hwnnw ‘does dim i atal y ddrycin. Mae’n ffodus iawn na frifwyd neb, er i hyn ddigwydd ganol pnawn. Y geiriosen fu’r gyntaf i gwympo oherwydd diffyg doethineb y datblygwyr, a dwi’n sicr y bydd tai ac eiddo arall yma yn dioddef oherwydd hyn yn y dyfodol.”