Dathlu DMC gyda Llew Glyn o Gwilym

Cyfweliad byr efo Llew Glyn o’r band Gwilym i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2022!

Brengain Glyn
gan Brengain Glyn

Roedd hi’n Ddydd Miwsig Cymru ddoe – diwrnod i ddathlu’r Sîn Roc Gymraeg yma yng Nghymru. Dyma gyfweliad byr efo’r gitarydd, Llew Glyn, o Gwilym er mwyn dathlu’r diwrnod!

Enw: Llew Glyn

Band: Gwilym

Pa offeryn wyt ti’n ei chwarae?

Gitar

Pryd ddechreuist ti chwarae’r gitâr?

Deng mlynedd nôl, pan oni tua 12

Hoff gân gan Gwilym i’w chwarae?

Neidia

Hoff gân fel arall?

Gwalia

Be’ oedd yr albym cyntaf gan artist Cymraeg iti’i fwynhau fwyaf neu wrando arni?

Candelas gan Candelas

Pwy ydy dy hoff artist yn y Sîn Roc Gymraeg ar y funud?

Cowbois Rhos Botwnnog

Be’ oedd dy hoff gig di, neu’r gig mwya’ cofiadwy i Gwilym ei chwarae?

Tafwyl 2019 cyn Caryl Parry Jones

Disgrifia sŵn Gwilym mewn tri gair.

Hapus, pop a gitars!

Pe taset ti’n cael y cyfle i gydweithio ag unrhyw artist neu fand arall, byw neu farw, pwy fyddet ti’n ei ddewis?

Jarman

Be’ mae Dydd Miwsig Cymru yn ei olygu i ti?

Mae’n ddiwrnod pwysig iawn i ddathlu bandiau ac artistiaid Cymraeg!

Be’ ydy’r digwyddiad sydd wedi colli’r mwyaf o embaras i ti?

Gorfod chwarae solo Ifan ar Ddoe achos fod ei gitâr o ‘di stopio gweithio, a’i chwarae fo’n hollol iawn, ond yn anffodus yn y cyweirnod anghywir!

Be’ ydy’r cyngor gorau iti ei dderbyn?

“Ymarfer dy scales!!!” (Dwi dal ddim yn g’neud)

Pa berfformiad neu ddigwyddiadau wyt ti’n edrych ‘mlaen atyn nhw ‘leni?

Sesiwn Fawr Dolgellau a Gŵyl Y Dyn Gwyrdd

Ac yn ola’, be’ sydd ar y gweill gan Gwilym?

‘Da ni nôl yn y stiwdio yn gweithio ar ail albwm!

Diolch, Llew!