Darogan buddugoliaeth i Gymru

Tri o swyddogion clwb Bangor 1876 yn Qatar

gan Marian

Dafydd Hughes, Les Pegler a Richard Williams yn Doha

Mae tri o swyddogion clwb pêl-droed Bangor 1876 wedi mwynhau’n fawr eu profiad o wylio Cwpan y Byd yn Qatar, hyd yn oed os mai siomedig fu perfformiadau tîm Cymru hyd yma.

Cyfarfod â chefnogwyr o wledydd eraill sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf i Les Pegler.  Mae Richard Williams hefyd wedi mwynhau’r cymysgu gyda chefnogwyr o bob cwr o’r byd, ond wedi sylwi nad oes cymaint o gefnogwyr Lloegr i’w gweld. Tybed a ydy hynny meddai am fod rheolau’r wlad yn cyfyngu ar y gallu i werthu alcohol?

Mae’r tri wedi sylwi ar y glendid ym mhob man, yn enwedig ar y metro sydd yn rhad ac am ddim yn ystod y gystadleuaeth i bawb a wnaeth gais am gerdyn Hayya cyn teithio i Qatar. Mae’r gweithwyr a’r gwirfoddolwyr mor glên a chymwynasgar. Mewn dinas gymharol fach mae wyth stadiwm o fewn cyrraedd hawdd, a modd i bobl wylio mwy nag un o gemau’r gystadleuaeth mewn diwrnod. Mae maint dinas Doha hefyd wedi bod yn help i ddod a phawb at ei gilydd, i rannu profiadau, llwyddiannau a cholledion yn ôl Dafydd Hughes. Mae Dafydd hefyd yn holi “Tybed beth yw’r dyfodol i Qatar – ai’r Gemau Olympaidd fydd nesaf?”

O ran y gêm heddiw mae’r tri yn gytûn ac yn obeithiol y bydd Cymru yn crafu buddugoliaeth o 1 – 0 yn erbyn Lloegr.