Dangos gemau Cwpan y Byd yn y capel

A dangos ffydd wrth gefnogi Cymru

gan Menna Baines
Cymru-v-Lloegr

Mawr yw’r cynnwrf yn lleol fel ym mhobman arall wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd, a bydd dwy o gemau grŵp Cymru yn cael eu dangos ar sgrîn fawr yng nghapel Berea Newydd, Bangor.

Bydd y dangosiad cyntaf ar gyfer gêm Cymru vs UDA nos Lun, Tachwedd 21, am 6.30 a hynny i griw CIC Bach a CIC Bang (clybiau plant y capel) ynghyd â’u teuluoedd a’u ffrindiau. Bydd yr ail ddangosiad ar gyfer gêm Cymru vs Lloegr nos Fawrth, Tachwedd 29, am 6.30 a bydd croeso i bawb i hwnnw.

Andrew Settatree, Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Gofalaeth Ardal Bangor, sydd wedi trefnu’r dangosiadau er mwyn ymestyn allan i’r gymuned a chefnogi Cymru yr un pryd.

“Rwy’n awyddus i ddangos rhai o gemau Cymru ar sgrîn fawr ym Merea fel ffordd o groesawu teuluoedd ac unigolion o bob oed o’r gymuned leol a theulu’r eglwys i gymdeithasu, mwynhau lluniaeth ysgafn, dod i adnabod ein gilydd a chael cyfle i feddwl am y cysylltiad rhwng ffydd a chwaraeon wrth gefnogi Cymru,” meddai Andrew.

Bydd cyfle hefyd yn y ddau ddangosiad i gyfrannu arian at ymgyrch Hadau Gobaith, sef apêl pum mlynedd Cymorth Cristnogol ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’r apêl yn codi arian tuag at helpu pobl sy’n dioddef effeithiau newid hinsawdd mewn gwahanol rannau o’r byd.

I ddangos diddordeb e-bostiwch andrew.settatree@ebcpcw.cymru