Cynulleidfaoedd brwd yn llenwi’r Babell lên eleni

Bwrlwm y Babell lên yn Eisteddfod Tregaron

gan kayley sydenham
61539DCE-6408-4783-B972

Noson o farddoniaeth a chân gan leisiau newydd, ifanc a ffres

32776C94-58D2-4A1C-8F72

Digwyddiadau Kathod yn llwyddiant ac yn denu cannoedd yn ystod yr wythnos

26BFE26F-6FEE-415F-A01B

Eden yn cynnal sesiwn ‘sgwrs a chân’ ar nos Sadwrn

FDE6AEEA-58DA-458D-B82B

Cerdiau yn barod am sesiwn y Stomp Lyfrau

7C834F26-739E-4FFF-ACCE

Enillwyr y Prif seremonïau yn trafod eu gwaith

Wedi inni gyd hen arfer â bywyd go iawn eto ar ôl bwrlwm a phrysurdeb yr Eisteddfod yn Nhregaron, cefais gyfle i sgwrsio â rhai wrth iddynt leisio eu meddyliau ar ddigwyddiadau llenyddol yr Eisteddfod eleni.

Llio Maddocks oedd efo’r swydd o reolwr llwyfan y Babell Lên, a hithau oedd yn cadw trefn ar yr holl feirdd a llenorion a wnaeth gerdded drwy ddrysau’r Babell Lên eleni. Pwysleisiodd am yr amrywiaeth sydd wedi bod yn y Babell eleni, megis amryw o sgyrsiau a sgyrsiau panel, darlithoedd, ac mi oedd llawer o sôn am gynwysoldeb o fewn llenyddiaeth. Am chwe bob diwrnod, gynhaliwyd sesiwn stori a chân efo cerddorion megis Eden a Dewi Pws. 

Roedd yn hyfryd i weld mwy o sesiynau nos weithiol megis comedi, bandiau byw a noson o adrodd barddoniaeth ‘Spoken word’ yn y Gymraeg hefyd yn cael eu croesawi.

Gwelwn amryw o bethau a digwyddiadau yn cael eu cynnal ar Lwyfan y Llannerch, megis lansiadau llyfrau, sgyrsiau efo enillwyr y prif seremonïau, a dosbarthiadau Cynganeddu i blant ac oedolion.

Dwedodd Llio “dani just ‘di cael ein spoilio go iawn i ddweud y gwir, a dw i wedi mwynhau pob eiliad.”

Roedd Megan Wood, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd sydd â diddordeb ym myd llenyddiaeth Gymraeg, yn ymweld â sesiynau’r Babell Lên yn gyson trwy gydol yr wythnos. Efo’i diddordeb ym myd barddoniaeth Gymraeg yn tyfu, mwynhaodd Megan sesiynau Barddas yn fawr, yn enwedig Talwrn y Beirdd. Dwedodd roedd yn fodd cael gweld beirdd profiadol yn cystadlu, wedi iddi hi gystadlu yng nghystadleuaeth ‘Talwrn yr ifanc’ efo’r Urdd ar ddechrau’r flwyddyn.

Cadeirydd cyfeillion y Cyngor Llyfrau, yn awdur, ac yn athro yn Ysgol Gyfun Gwynllyw yw Ion Thomas. Yn ôl Ion, “Llwyddiant oedd y Babell Lên. Yr hyn fydd yn sefyll yn y cof fydd darlith arbennig Prys Morgan ar y ddau lew yn yr adran Gymraeg Abertawe. Ysgubol!”

Roedd Ion yn canmol yn fawr digwyddiadau Llwyfan y Llannerch, ac yn ymddiddori yn nhrafodaethau a chael clywed hanes y prif lenorion.

Cynhaliwyd y Cyngor Llyfrau stomp lyfrau eleni yn y Babell, a oedd yn denu cynulleidfa frwd. Yn ôl Ion a oedd yn cynnal y sesiwn “Cyflawnwyd y bwriad sef atgoffa pawb o’r holl a gyhoeddwyd dros y clo. Cafwyd hwyl a thybiaf caiff y stomp lyfrau groeso eto.”