Cyfansoddwr lleol ar restr fer Cân i Gymru 2022

Elfed Morgan Morris wedi cyd-gyfansoddi un o’r wyth cân fydd yn y rownd derfynol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Panel Cân i Gymru 2022

Mae cyfansoddwr lleol wedi cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru 2022, a fydd yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ar 4 Mawrth.

Daw Elfed Morgan Morris, sydd wedi cyd-gyfansoddi’r gân Rhyfedd o Fyd, yn wreiddiol o Ddeiniolen, ac mae bellach yn bennaeth ar Ysgol Llandygai ger Bangor.

Yn gyn-enillydd y gystadleuaeth yn 2009 gyda’r gân Gofidiau, mae Elfed wedi cyrraedd y rhestr fer ar fwy nag un achlysur yn y gorffennol.

Y tro hwn, mae wedi cyfansoddi cân gyda Carys Owen, a gafodd ail yn y gystadleuaeth yn 2002, gyda’r actor a’r awdur Emlyn Gomer Roberts yn ysgrifennu’r geiriau iddyn nhw.

Yr actores Elain Llwyd, sy’n adnabyddus am chwarae rhannau Donna Direidi a Melanie ar Rownd a Rownd, fydd yn perfformio’r gân.

Bydd Cân i Gymru eleni yn cael ei chystadlu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 4 Mawrth, a bydd Trystan Ellis Morris ac Elin Fflur yn dychwelyd i gyflwyno’r rhaglen yn fyw ar S4C.

Gallwch weld gweddill y rhestr fer ar wefan golwg360.