Croesawu Seremonïau Graddio’n ôl i Brifysgol Bangor

Gyda Phrifysgol Bangor yn agor ei drysau ar gyfer ei Diwrnod Agored cyntaf eleni, dyma gyfle i edrych yn ôl ar gyfnod y seremonïau graddio.

gan Catrin Elain Roberts
seremoni-graddio-prifysgol

Ar ôl blynyddoedd o ymroddiad a gwaith caled, cafodd myfyrwyr Prifysgol Bangor ddathlu eu cyflawniadau unwaith yn rhagor. Cynhaliwyd y seremonïau rhwng y 30ain o Fehefin a’r 14eg o Orffennaf a bu dathliadau mawr eleni gan fod y Brifysgol yn cynnal seremonïau wyneb yn wyneb ar gyfer dosbarthiadau 2020, 2021 a 2022.

Roedd yn bleser gan yr Is-ganghellor, yr Athro Iwan Davies, ddathlu llwyddiannau’r myfyrwyr yn y Brifysgol a mynegodd, fod graddio yn “garreg filltir arwyddocaol ym mywyd pob myfyriwr”.

“Graddio yw’r dyddiad pwysicaf yn y calendr addysg uwch. Fel Is-ganghellor, mae’n bleser mawr gennyf fod yn bresennol yn y seremonïau hyn, yn tystio i’ch llwyddiant a dathlu grym trawsnewidiol addysg brifysgol”, meddai.

Ychwanegodd, “Rydym yn falch iawn ein bod yn cynnal seremonïau graddio dros dair wythnos yr haf hwn ar gyfer y myfyrwyr y bu’n rhaid i ni ganslo eu seremonïau oherwydd y pandemig. Rydym yn arbennig o falch o allu rhannu’r dathliad ar gyfer ein holl raddedigion gyda theuluoedd, ffrindiau, a chefnogwyr.”

Yn ôl Huw Geraint Jones, a oedd yn wreiddiol i fod wedi graddio gyda gradd BA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor llynedd, ac sydd bellach yn astudio cwrs Meistr yn y Gymraeg, “Dwi’n falch iawn fod y seremonïau graddio wedi cael eu cynnal o’r diwedd – braf cael dathlu tair blynedd o waith caled a chael gweld pawb unwaith yn rhagor!”.

Mynegodd Catrin Haf Mather, sy’n byw’n Y Felinheli, a astudiodd gwrs Meistr Busnes a Marchnata, ac a oedd fod i raddio’n wreiddiol yn 2020, “Braf oedd cael graddio ar ôl gorffen fy nghwrs Meistr ym mis Medi 2020. Er bod rhaid disgwyl yn hirach na’r arfer am y seremoni graddio, roedd yn bleser gallu sgwrsio gyda fy narlithwyr am sut rwyf wedi defnyddio beth ddysgais yn ystod fy ngradd yn fy ngyrfa newydd”. Mae Catrin bellach yn gweithio gyda Dunn & Ellis, cwmni annibynnol o Gyfrifwyr Siartredig ac Ymarferwyr Treth Siartredig.

Yn ystod y seremonïau cyflwynwyd dyfarniadau mawr eu bri, y Cymrodoriaethau a Graddau er Anrhydedd, i unigolion nodedig sydd â chysylltiad â’r Brifysgol, neu â Chymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu gwahanol feysydd.

Am wasanaeth i adloniant poblogaidd a chyfraniad at ddysgu trwy bob cyfrwng, cyflwynwyd y radd Doethur mewn Llenyddiaeth i Tudur Owen. Mae’r cyflwynydd wedi sefydlu ei hun fel enw cyfarwydd yn y diwydiant darlledu ar y sgrin fach ac ar donfeddi’r radio dros y blynyddoedd. Mae’r digrifwr sydd wedi ennill BAFTA yn cyfuno agwedd Gymreig gryf gydag arddull hwyliog a siriol ac mae’n adnabyddus am ei slot penwythnos rheolaidd ar BBC Radio Cymru. Cynhaliodd sioe sgwrsio ar S4C, ac ef yw troslais rhaglen Saesneg BBC Cymru Wales sy’n adolygu hen raglenni a wnaed yng Nghymru. Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd ac mae ganddo ddawn i ddenu cynulleidfaoedd newydd, yn enwedig y bobl hynny na fyddai fel rheol yn gwylio nac yn gwrando ar raglenni Cymraeg, gan ehangu mynediad i’r Gymraeg.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd Tudur Owen, “Mae disgrifio hyn fel braint ac anrhydedd yn dan ddatganiad llwyr. Dwi wedi bod mor lwcus dwi’n teimlo nad oes gen i mo’r hawl i roi cyngor yn aml iawn, ond yr unig beth faswn yn cynghori pobol ydy i beidio â bod ofn gwneud camgymeriadau, ond trïwch beidio â gwneud yr un camgymeriad ddwywaith.”

Yn ogystal, cyflwynwyd Gradd er Anrhydedd i Hamza Yassin, sy’n adnabyddus am ei waith ar Countryfile y BBC. Mae ganddo radd mewn Sŵoleg gyda Chadwraeth o Brifysgol Bangor a gradd Meistr mewn Ffotograffiaeh o Brifysgol Nottingham. 

Am gyfraniad i ddiwylliant, iaith, cerddoriaeth a’r celfyddydau yng Nghymru, cyflwynwyd Gradd er Anrhydedd i Menai Williams, a raddiodd o Fangor. Mae’n un o feirniaid, tiwtoriaid a chyfansoddwyr cerdd fwyaf blaenllaw Cymru a fu’n delynores ac yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers dros 40 mlynedd. Mae Menai wedi cyfansoddi nifer o geinciau cerdd dant a ddefnyddir mewn digwyddiadau cenedlaethol ledled Cymru. Bu’n arwain sawl côr meibion gan ddod yn fuddugol ar sawl achlysur. Er bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn llwyddo wrth feithrin doniau arweinyddesau, hi oedd y ferch gyntaf i dderbyn Medal Goffa Ivor E. Simms am ennill prif wobr corau meibion y brifwyl.

Derbyniodd Sasha, a aned ym Mangor yn Alexander Paul Coe, Radd er Anrhydedd hefyd. Mae’n DJ a chynhyrchydd recordiau, ac yn adnabyddus am ei ddigwyddiadau byw a’i gerddoriaeth electronig fel artist unigol yn ogystal â chydweithrediadau fel Sasha & John Digweed. Cafodd ei ethol yn DJ Rhif 1 y Byd mewn arolwg barn a gynhaliwyd gan DJ Magazine ac mae wedi ennill Gwobr Cerddoriaeth Ddawns Ryngwladol bedair gwaith, gwobr DJ bedair gwaith ac wedi’i enwebu am wobr Grammy. Fe wnaeth defnydd Sasha o offer peirianneg sain byw helpu i boblogeiddio arloesiadau technolegol ymhlith DJs a oedd yn arfer dibynnu ar recordiau a byrddau tro.

Yn ogystal, derbyniodd Arfon Jones Radd er Anrhydedd am gyfrannu at ddiwylliant crefyddol Cymru, yn bennaf wrth gynhyrchu testun dealladwy ac academaidd gyfrifol o’r Beibl Cymraeg sy’n gweddu i ddiwylliant cyfoes. Graddiodd Arfon o Brifysgol Bangor, a dechreuodd gyfieithu’r ysgrythur i’r Gymraeg i ddysgwyr ifanc yn y 1990au. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi’n electronig gyda 27 o lyfrau’r Testament Newydd a 39 o lyfrau’r Hen Destament.

Am wasanaeth i addysg cyflwynwyd Gradd er Anrhydedd i Steve Backshall MBE. Fforiwr, naturiaethwr, cyflwynydd teledu ac awdur yw Steve, ond mae’n fwy adnabyddus gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor fel darlithydd er anrhydedd ym maes Cadwraeth a Sŵoleg. Graddiodd o Brifysgol Caerwysg ac mae ganddo MSc mewn Biowyddorau o Brifysgol Christ Church Caergaint. Meddai Steve: “Pe bawn i’n cael fy amser eto byddwn i wedi bod eisiau dod i Brifysgol Bangor. Mae’r addysgu a’r cyrsiau heb eu hail ac mae ei ffocws ar sŵoleg ‘anifeiliaid cyfan’ yn allweddol i ni allu deall byd natur yn well.”

Mynegodd Ffion Medi Ellis, cyn-fyfyrwraig Adran y Gymraeg, sydd bellach yn Diwtor Cymraeg, ac a oedd fod i raddio llynedd yn wreiddiol, “Roedd hi’n deimlad braf cael dathlu derbyn fy ngradd efo teulu a ffrindiau yn enwedig ar ôl yr holl oedi. Doedd yr un ohonom ni eisiau tynnu’r cap a chlogyn ond dwi’n ddiolchgar fod gennym ni ddigon o luniau o’r diwrnod i ni edrych yn ôl arnynt.”

“Fe ddechreuodd y pandemig yn fy myd i ar fore Sul ym mis Mawrth 2020”, nododd Awen Fflur Edwards, cyn-fyfyrwraig Cymraeg a’r Gyfraith o Benrhosgarnedd, sydd bellach yn gyfreithiwr dan hyfforddiant yn Llundain. Ychwanegodd, “Roedd hi’n fore wedi’r Eisteddfod Ryng-golegol, ac roeddwn i a saith o’m ffrindia ym mharlwr ein tŷ ar Ffordd y Coleg yn cynnal post mortem manwl i ddigwyddiadau’r penwythnos lawr yn Aberystwyth. Rhywbryd rhwng ail a thrydydd paned y bore, dyma wyth ping yn atseinio o’n ffonau fesul un; e-bost yn egluro bod drysau’r Brifysgol bellach ar gau yn sgil y sefyllfa. Dw i’n ddiolchgar ein bod ni ddigon naïf ar y prynhawn Sul hwnnw i gredu y basa ni nôl yn ein darlithoedd mewn llai na mis!

“Dros y misoedd canlynol, daeth fy mlwyddyn olaf yn coleg i ben mewn ffordd hollol anarferol. Yn hytrach na gorffen y radd gyda parti a ffrindiau, daeth fy ngradd i ben trwy wasgu botwm “Cyflwyno” yn fy stafell wely ar fy mhen fy hun.

“Ddwy flynedd yn ddiweddarach, daeth y gwahoddiad i’r seremoni raddio. Ac er mai nid ddwy flynedd (a gradd meistr) yn ddiweddarach oedd y ffordd i mi ddychmygu graddio; roedd y profiad ei hun yn ddigymar. Yn hytrach na ffarwelio â ffrindiau coleg, daeth cyfle i glywed hanes hen ffrindiau, a chael dathlu o’r diwedd hefo’r saith hynny oedd yn y parlwr ar Ffordd y Coleg ar y bore Sul hwnnw ym mis Mawrth 2020. A dyma gofio o’r newydd ei bod hi wir yn braf o hyd ym Mangor Ucha’!”, pwysleisiodd Awen.

Yn ôl yr Is-ganghellor, yr Athro Iwan Davies, “Mae eich profiad yn y brifysgol yn sicr wedi mynd â chi ar daith o dwf a thrawsnewid a hoffwn dalu teyrnged i chi am eich gwaith caled a’ch ymrwymiad i ddysgu yn ystod cyfnod unigryw a digyffelyb.”

Os na chawsoch gyfle i weld Prifysgol Bangor heddiw, bydd y Diwrnod Agored nesaf yn cael ei gynnal ar ddydd Sul, y 9fed o Hydref, 2022.