Bywyd newydd i hen Ysgol Felin!

Agorodd Hwb Heli ei drysau i’r cyhoedd yr wythnos hon

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian
Untitled-design-29

Siân Gwenllian a’i mam, Beti

Yn lleoliad Hwb Heli oedd hen adeilad Ysgol Gynradd y Felinheli, tan yr 1970au.

 

Mae’r adeilad bellach yn rhan o ddarpariaeth Gwasanaeth Anabledd Cyngor Gwynedd, sy’n cynnig rhaglenni wedi’u teilwra i anghenion unigryw unigolion.

 

Roeddwn i yn ddisgybl pan oedd Hwb Heli yn ysgol, a fy mam, Beti Huws, yn athrawes yno. Cefais i a Mam gyfle i fynychu diwrnod agored yng nghwmni cyn-athrawes arall, Menna Davies. Cafodd y ddwy’r fraint o dorri’r rhuban i ddathlu agor y hwb ar ei newydd wedd.

 

Yn ogystal â bod yn gartref i ran o ddarpariaeth gwasanaethau anableddau dysgu Cyngor Gwynedd, mae Hwb Heli yn lleoliad i’w ddefnyddio gan y pentref ar gyfer gweithgareddau cymunedol amrywiol.

 

Er enghraifft, mae Hwb Heli yn gartref i Gôr Lleisiau Llawen Makaton, a fu’n perfformio’n ddiweddar yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon. Ffurf ar iaith yw Makaton sy’n defnyddio arwyddion, ynghyd â lleferydd a symbolau, i alluogi pobl i gyfathrebu. Fe’i defnyddir yn aml gan unigolion ag awtistiaeth, Syndrom Down, namau iaith amrywiol, namau amlsynhwyraidd, neu unrhyw anhwylderau niwrolegol eraill sydd wedi effeithio ar eu gallu i gyfathrebu.

 

Mae unigolion sy’n derbyn gwasanaethau yn y ganolfan hefyd wedi rhoi help llaw i Bwyd Bendigedig Y Felinheli, rhan o The Incredible Edible, prosiect garddio a ddechreuwyd yn 2008.

 

Mae’r ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi effeithio ar unigolion ag anableddau dysgu mewn ffordd eithaf anghymesur. Dyna pam fod adnoddau fel Hwb Heli yn hanfodol i integreiddio’r unigolion hynny yn ôl i gymdeithas, a’u cynorthwyo i ailadeiladu rhwydweithiau cymdeithasol a rhoi presenoldeb iddynt yn y gymuned.

 

Roeddwn i hefyd yn falch o glywed am ymrwymiad Hwb Heli i ddod yn rhan lawn o fywyd y pentref, ac maen nhw’n annog trigolion i wneud defnydd o’r ganolfan.

 

Roedd yn wych clywed mwy am y gwasanaethau fydd yn cael eu cynnig yn Hwb Heli. Roedd Llwybrau Llesiant hefyd yn bresennol i rannu gwybodaeth am y gwaith y maen nhw yn ei wneud i ddatblygu cyfleoedd llesiant i oedolion ag anableddau dysgu.

 

Roedd yn brofiad braf dychwelyd i fy hen ysgol a gweld sut mae’r adeilad wedi’i drawsnewid yn ofod amlbwrpas a modern, sy’n addas ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth a’r staff a hefyd yn gaffaeliad gwych i’r fro gyfan.