Bargeinion lu yn siopau Bangor

Dewch i siopa ar y stryd fawr

gan Marian
so-chic-jpg
Dillad £20 yr un yn siop So Chic
Siop ddillad dynion Homme
Siop Homme
Stiwdio 9
Holland and Barrett
Siop Pandora
Siop Clarks

Dewch i siopa ar stryd fawr Bangor ac mae bargeinion lu ar eich cyfer ar hyn o bryd.

Dwy siop ddillad sydd â sêl arbennig ydi So Chic lle mae holl stoc gwanwyn a’r haf lawr i £20 yr un. Disgownt arbennig gyda rhai dillad lawr o £200.

Ym mhen arall y stryd fawr yn siop ddillad dynion Homme fe gewch chi Jeans am £20 topiau am £10 a chotiau am £25.

Mae gan siop Pandora gynnig arbennig (tan ddydd Sul yn unig) prynwch 3 am bris 2 a gewch chi 15% oddi ar eich pryniant nesaf.

Hanner Pris

Yn Stiwdio 9 mae lluniau a dillad ar gael am hanner pris, rhai llyfrau yn W H Smith a nwyddau yn Holland and Barrett a rhai esgidiau yn Clarks hanner pris.

Dewch i gefnogi busnesau ein stryd fawr.

Os wyddoch chi am fargen – gadewch i ni wybod isod.