Bangor yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant

Digwyddiadau llu 25 Chwefror – 5 Mawrth

gan Daniela Schlick

Am y 4edd flwyddyn yn olynol mae criw o sefydliadau gwahanol ym Mangor wedi dod at ei gilydd i greu rhaglen o weithgareddau sy’n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau efo rhywbeth at ddant pawb. 

Mae gorymdaith lusernau, cyngherddau, teithiau cerdded, sesiwn blannu blodau, gweithdai crefft a dawns a chwis ymhlith y gweithgareddau. Am fwy o wybodaeth cadwch lygaid ar ein tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram @gwyldewibangor

Diolch i bobl weithgar Pontio, Castell Penrhyn, Storiel, Adra, Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, Cadeirlan Bangor a Menter Iaith Bangor am greu’r rhaglen wych!