Merched Bangor yn Hel Merched!!

(Hanes taith ddiddorol gan Nerys Pritchard) 

Nia Humphreys
gan Nia Humphreys
Taith-Gerdded-myw-Mehefin-30-2021-1

Cyfarfod yn y “lookout” ar ddechrau’r daith

Elen-Lansdown-yn-ein-tywys-1

Elen Lansdown yn ein tywys

Cael-hoe-fach-ynghanol-y-daith-1-1

Hoe haeddiannol ynghanol y daith!

’Wel be nesa?’ medde chi?  Mae’r cofid yma wedi cael effaith ryfedd ar lawer…
Beth oedd yn mynd ymlaen ar strydoedd Bangor Ucha yng ngolau dydd ar Fehefin 30ain? Wel…..

‘ Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hir-felyn tesog…….’  roedd tua dwsin a hanner o
ferched yn ymlwybro ar hyd strydoedd Bangor Uchaf. Pwy oedd y criw diddan felly? Pam…? Pryd…?  Ble…? Sut…? Ar pa berwyl oedden nhw yn crwydro o stryd i stryd?

Aelodau o gangen Merched y Wawr Penrhosgarnedd a changen Bangor oedden nhw, yn mynd ar drywydd ‘Merched o Sylwedd’ a oedd a chysylltiad â’r ardal. Merched hynod oedd rhain, yn hannu o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ond merched dylanwadol, merched hefo gweledigaeth a merched oedd yn barod i wrthdystio yn erbyn anghyfiawnder, tlodi neu erchyllterau rhyfel.

Ar flaen y gâd i’n tywys yn ddeheuig iawn oedd Elen Lansdown. Gan gychwyn wrth y ‘Lookout’, dyma gychwyn i lawr Siliwen  â throi  i’r chwith i weld cartref  ysblennydd Winifred Wartski yn Derwen  Deg a gyda chaniatâd y perchennog presennol cawsom hyd yn oed  fusnesa yn y gerddi! Roedd lloches yma i ffoaduriaid rhyfel o dras Iddewig a bu hi a’i gŵr yn gofalu am y tlodion a rhannu bwyd iddynt.

Beth oedd cysylltiad yr arglwyddes Margaret Verney â Bangor Ucha tybed? A beth oedd pwysigrwydd Dilys Lloyd Glynne Jones oedd yn byw yn Glyndil?  Tŷ urddasol a fu, hyd yn ddiweddar, yn gartref i Adran Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol.

A wyddech chi hefyd fod Brenda Chamberlain, yr arlunydd enwog, wedi byw am gyfnod yn Menai View?  Cawsom stori ddifyr gan Sioned am ymwelydd yn galw heibio ar gefn ei geffyl ac yn mentro i fyny’r grisiau at y drws. Ond gan ei bod yn anodd i geffyl ddod i lawr y grisiau, (mae’n anoddach iddo weld ei draed medda nhw) rhaid oedd ei dywys drwy’r tŷ ac allan drwy’r cefn!

Yng Nghraig y Don roedd yr awdures Ann Harriet Hughes yn arfer byw a beth am Alice Gray Jones neu Mary Silyn Roberts yn Ffordd y Coleg? Pa hynodrwydd oedd yn perthyn iddyn nhw?  Rhaid oedd troi i mewn i’r Cilgant i weld cartref Mary Rathbone ac ymlaen i Ffordd Garth Uchaf  lle ‘roedd Charlotte Price White yn byw. Pwy oedden nhw meddech chi?

Erbyn diwedd y daith (rhyw ddwyawr falle?) roedd y cerddediad yn dechrau arafu a’r cloncian yn cynyddu! Ond roedd cael rhyddid i gyfarfod a chyd-gerdded a sgwrsio â’n gilydd unwaith eto wedi bod mor werthfawr. A wir i chi, mae’r daith yn addysgiadol ac yn agoriad llygaid.

Llawr-lwythwch y llyfryn ac ewch i dreulio pnawn yn mynd wysg eich trwynau ar hyd strydoedd Bangor Uchaf ar daith hanesyddol a diddorol. O leia’ fe gewch chi dipyn o ymarferol corff a llond ‘sgyfaint o awyr iach – ac yn llesol i’r plant hefyd!
N.R.

Teithiau Treftadaeth Menywod 2021 (womensarchivewales.org)