Marwolaeth annisgwyl y cyn-gynghorydd a’r dyn busnes llwyddiannus, Dewi Llewelyn, yn 62 oed. 

Syfrdanwyd ardal Bangor a thu hwnt i glywed yn ddiweddar y newyddion trist am farwolaeth sydyn ac annisgwyl Dewi Llewelyn yn dilyn trawiad ar y galon. (Yn seiliedig yn bennaf ar deyrnged arbennig a draddodwyd gan Iwan Edgar, ei bartner busnes, yn angladd Dewi yn Amlosgfa Bangor ar Fai 21).  

Nia Humphreys
gan Nia Humphreys
Dewi-Llewelyn

Yn enedigol o Lanbedrog, fe nodweddwyd Dewi gan ryw ddiwydrwydd ers ei ddyddiau cynnar ar yr aelwyd deuluol gyda’i rieni, Dafydd ac Ella Jones a’i frawd Dylan. Roedd hefyd yn un a fedrai droi ei law at bob math o bethau ymarferol megis trwsio clociau ac adeiladu tŷ coeden. Roedd yna ryw “afael ynddi” ynddo yn ôl Iwan Edgar.

Er iddo feddwl i ddechrau am fynd i’r Normal i hyfforddi i fod yn athro, i’r Brifysgol ym Mangor yr aeth yn y pen draw. Yno bwriodd iddi gyda’i gyd-Gymry yng Nghymdeithas y Cymric ar y pryd i’r frwydr yn erbyn Seisnigrwydd y coleg.  Yno hefyd y cyfarfu gyda Carol Ann o Landeilo a ddaeth ymhen amser yn gymar oes iddo ac yn fam i’w pedwar o blant,  Guto, Non, Gethin a Gwenno.

Wedi graddio ac ennill ei dystysgrif i fod yn athro, bu’n dysgu am gyfnod byr yn Ysgol John Bright, Llandudno, ond nid oedd ei galon yn y gwaith a phenderfynodd newid gyrfa.  Roedd Dewi a dau arall sef John Trefor ac Iwan Edgar wedi prynu tŷ i fyw ynddo a’i ran osod ac yn y pen draw penderfynodd y tri brynu tŷ arall a chael Dewi yno i’w adnewyddu. Roedd Dewi fel y soniais yn ddyn ymarferol, yn drydanwr, yn blymar ac yn blastrwr, yn godwr waliau brics ac yn giamstar am wneud hynny. Aeth y tri phartner yn ddau yn y cyfnod hwn.

Cynyddodd y nifer o dai a’r cyfrifoldeb ac yn 1982 rhoddwyd enw ar y busnes, Lle Cyf. Roeddent bellach yn cyflogi gweithwyr i’w helpu ac mae rhai o’r rheiny yn parhau i weithio gyda’r cwmni hyd heddiw.

Meddai Iwan Edgar:

“Yr oedd yn ddyn busnes craff ond hawdd ei gymwynas ac yn ddyn teg. Ers clywed am farwolaeth sydyn Dewi, mae sawl un o sawl cenedl wedi galw heibio’r swyddfa yn cyd-ymdeimlo’n ddiffuant ac yn eu dagrau o glywed iddo ein gadael mor frawychus o sydyn. Mi fydd bwlch ym Mangor Ucha’ ar ei ôl.

Etholwyd Dewi yn Gynghorydd Dinas Bangor, Plaid Cymru dros ward Deiniol yn 1995 ac yn Gynghorydd Gwynedd dros ward Pentir y flwyddyn ganlynol. Bu’n llywodraethwr ar ysgolion y Garnedd a Threborth, ac yn weithgar ar bwyllgorau Plaid Cymru, Canolfan Penrhosgarnedd, Cartref Bontnewydd ac yn un o hyfforddwyr clwb pêl droed ieuenctid Penrhosgarnedd. Heb anghofio Capel Berea Newydd. “ Cofia’r cyn-weinidog, Y Parch Eric Jones, ef yno yn y maes parcio am un y bore ar noson o lifogydd mawr yn torri cwteri i ddraenio’r dŵr a lifai ymhobman, gan osgoi difrod mawr i’r adeiladau.

“Bu ar Gyngor y Ddinas tan 2017, ac yn ôl ei gyfaill John Wyn Jones, roedd yn Gynghorydd uchel ei barch, gweithgar a chydwybodol ond nid oedd yn ddyn cyhoeddus. Gwell gan Dewi’r gwaith ymarferol, roedd yn ddyn gwneud yn hytrach na dweud. Er hyn, pan fyddai’n cyfrannu at unrhyw ddadl yn y siambr byddai bob tro’n llais synnwyr cyffredin gan gynnig datrysiad i unrhyw broblem.

Ar lefel gymdeithasol bu’n chwaraewr snwcer brwdfrydig, wedi dysgu ei grefft yn neuadd bentref Llanbedrog. Os oedd yn digwydd cael cweir, nid oedd yn ddyn hapus hyd yn oed os oedd y gweir honno gan un o’i deulu ei hun.” Roedd hefyd yn ddyn ffit oedd yn rhedeg am filltiroedd yn rheolaidd.

“Ond adref at Carol. Graddiodd Carol mewn Cerddoriaeth ac aeth ati i ddysgu’r pwnc mewn ysgolion uwchradd tra bod Dewi yn gosod ac atgyweirio tai. Priododd Dewi â Carol ym mis Awst 1984 ym Mhentref Llangathen ger Llandeilo. Wedi cyfnod hapus iawn yn Nhrem yr Wyddfa ym Mangor Uchaf symudon i Fodlondeb ar lan y Fenai – llecyn braf oedd am fod yn gartref ac yn brosiect oes.”

Roeddent yn gymdogion i fy rhieni, Gwilym a Carys Humphreys ym Modlondeb ac yn ddi-ball yn eu cymwynasau i ni fel teulu, gyda Dewi wrth law i helpu mewn unrhyw argyfwng ymarferol. Wrth ofyn am help mewn awr o angen, liw dydd neu nos, ateb parod Dewi fyddai “Fyddai yno rŵan!” a byddai yn cyrraedd gyda gwen fawr ar ei wyneb.  Dyn yr ail filltir fel y byddai fy nhad yn dweud.

A Iwan yn ei flaen: “Heibio eu gwaith mi oedd Carol a Dewi hefyd yn dîm da ac ymroddgar – yn gafael ynddi i fagu pedwar o blant. Ganwyd Guto ym 1986 Non ym 1987, Gethin ym Mai 1989 a Gwenno ym 1991. Afraid dweud bod hyn yn siŵr o fod yn llond llaw, ond cafodd y pedwar bob cyfle a chefnogaeth a magwraeth hapus a chlos gan Carol a Dewi. Ac y mae’n wir dweud fod y pedwar ar eu traed wedi etifeddu natur ‘gafael ynddi’ eu rhieni. Un yn dilyn y llall oedd hi pan aethant i’r coleg a’r pedwar wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth.

Mi roedd Dewi yn dad gofalus a chefnogol iawn. Roedd yn hael efo’i amser, yn wrandäwr ac yn ffrind i bob aelod o’i deulu. Yr oedd yn hynod falch o lwyddiannau ei blant ac yr oedd wrth law bedair awr ar hugain i’w rhoi ar ben ffordd ym mhob maes. Ond ei ddileit oedd cael helpu efo’u tai gan gynghori, adeiladu a thrwsio bob mathau o bethau. Yr oedd wedi gwirioni efo’i wyrion a’r pump ohonynt wedi gwirioni efo fo. Ar ôl geni Morgan bach, y cyntaf o’r wyrion, mi ddywedodd o “Dwi ddim am gael fy ngalw yn Taid. Dew fydda i iddyn nhw”. Doedd o ddim isio mynd yn hen. Hyd y diwedd, roedd wrth ei fodd yn cael cystadlaethau rhedeg , neidio, chware cuddio a chael “cwff” ar lawr – fel taid ugain oed, nid trigain.

Roedd yn fab gofalus i’w fam ym Mryn Eirion, Llanbedrog yn gymorth gydag unrhyw beth ac yn gwmni mawr iddi ers colli ei dad yn 2015. Yr oedd ganddo hefyd feddwl y byd o’i fam yng nghyfraith – roeddynt yn dipyn o ‘fêts’.

Ond ym mywyd Carol y bydd y bwlch mwyaf. Mi gafodd y ddau dreulio dros ddeugain mlynedd yng ngofal a chwmni ei gilydd gan rannu profiadau hapus a mwynhau pob agwedd o fywyd. Gyda chefnogaeth a chariad diamod Carol, mi lwyddodd Dewi i fod yn gonglfaen i’w deulu oll. Mi oeddan nhw yn bartneriaeth yn wir ystyr y gair.

Mae ffrindiau a’r gymuned ym Mangor yn mynd i weld ei golli’n fawr ond i’w deulu y bydd yr ergyd drymaf. Cawn nerth o’r stôr o atgofion amhrisiadwy amdano.”