Llwyddiant i gyn-fyfyrwraig Bangor

Mae Carys wedi profi llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd

gan Osian Owen
2ilCarys Mair Bradley-Roberts, gan Eisteddfod yr Urdd

Mae cyn-fyfyrwraig Prifysgol Bangor wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y fedal ddrama Eisteddfod yr Urdd 2021.

Er bod Carys yn byw yng Nghaerdydd bellach, mae’n dod o Gaernarfon. Ar ôl gadael Ysgol Syr Hugh Owen, aeth yn ei blaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.

Gydol yr wythnos hon mae Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020. Cyflwynwyd y cyfansoddiadau ddechrau Mawrth 2020, ond erbyn diwedd y mis roedd y wlad mewn cyfnod clo, ac roedd yr Eisteddfod wedi ei gohirio.

Llongyfarchiadau Carys!