Lansio gwefan newydd BangorFelin360 

Bangor a’r Felin yn cyrraedd yr 21ain ganrif

gan Daniela Schlick
IMG-20210415-WA0000

Mae Menter newydd i Fangor a’r Felinheli wedi ymuno â’r gymuned o 8 gwefan Bro360.

Daeth criw o gynrychiolwyr o gymdeithasau lleol at ei gilydd i daflu syniadau i mewn i’r pair i greu’r wefan newydd hon ar gyfer Dinas Gymreiciaf Cymru.

Mae’r wefan i’r bobl gan y bobl ac mae yna groeso mawr i bawb o’r ardal ymuno a chyfrannu straeon, lluniau, blogiau a fideos.