Hoci: Colled trwm i ddynion Bangor yng Nghaer

Adroddiad Gêm: Caer (3ydd) 6 Bangor 0

Tomos Hughes
gan Tomos Hughes

Colli o chwe gôl i ddim yn erbyn trydydd tîm Caer oedd hanes tîm hoci dynion Bangor yn eu gêm oddi cartref gyntaf o’r tymor.

Fe frwydrodd y dinasyddion yn galed yn yr hanner gyntaf, yn amddiffyn yn gryf a threfnus am gyfnodau hir, nes i Gaer lwyddo i sgorio’r gôl gyntaf ar ôl 20 munud, gyda gôl ffodus wedi ei wyro heibio’r golwr Keith Proudlove.

Daeth ymateb cryf gan Fangor wrth iddyn nhw greu sawl cyfle da; fe ergydiodd Dave Paterson ac Ash Hardaker modfeddi heibio’r postyn, cyn i Caleb Evans orfodi golwr y tîm cartref mewn i arbediad campus gyda gwyriad peryglus.

Yn anffodus i Fangor, roedd yr ail hanner yn stori gwbl wahanol. Fe lwyddodd Caer i hawlio’r meddiant drwy gydol yr ail hanner, gan dynnu chwaraewyr Bangor allan o siâp yn gyfan gwbl.

Fe lwyddodd y tîm cartref i ychwanegu pum gôl arall yn yr ail hanner i selio buddugoliaeth gwbl haeddiannol.

Bydd y Gleision yn dychwelyd adref i Ganolfan Brailsford penwythnos nesaf, wrth iddyn nhw groesau Glwb Hoci’r Northern, o ardal Lerpwl, i Fangor. Bydd y gêm yn cychwyn am 2.15yh.