Hoci: Bangor yn colli gêm gyfeillgar yn erbyn Eirias

Perfformiad calonogol gan dîm ifanc y gleision

Tomos Hughes
gan Tomos Hughes

Hoci Dynion – Gêm gyfeillgar

Dinas Bangor 0 Eirias 3

Colli o dair gôl i ddim oedd hanes tîm dynion Dinas Bangor yn erbyn Eirias ddydd Sadwrn yng Nghanolfan Brailsford.

Er y canlyniad siomedig, roedd y perfformiad yn un galonogol o safbwynt y Dinasyddion, wrth i sawl chwaraewr ifanc gael y cyfle i ddangos eu doniau.

Ar ôl dechreuad da gan Eirias, fe sgoriodd yr ymwelwyr eu gôl gyntaf ar ôl 10 munud gydag ergyd isel cryf o gornel gosb.

Wedi’r gôl, daeth Bangor fewn i’r gêm lawer iawn yn fwy, gan basio’r bêl yn grefftus a chreu cyfleoedd; daeth Dan Jackson, Will Hall a Flynn Holt yn agos sawl tro a gorfodi gôl-geidwad Eirias i wneud sawl arbediad.

Ar ben arall y cae, roedd amddiffyn y Gleision yn drefnus ac fe wnaeth y golwr, Keith Proudlove, arbediadau da yn ystod yr ail a thrydydd chwarter, i rwystro’r ymwelwyr o Fae Colwyn rhag ychwanegu i’w mantais.

Ond gyda choesau’n blino yn y chwarter olaf, fe lwyddodd Eirias i sgorio dwy gôl bellach o fewn y 10 munud ddiwethaf i selio’r fuddugoliaeth, mewn gêm gystadleuol.

Er i dymor hoci Gynghrair Gogledd Orllewin Lloegr ei ohirio eleni, sef y gynghrair mae Bangor a holl dimoedd dynion gogledd Cymru yn chwarae ynddo, bydd y clwb yn gobeithio trefnu fwy o gemau cyfeillgar dros yr haf er mwyn i’r tîm parhau i ddatblygu.

Mae’r clwb yn awyddus i wahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae hoci neu gadw’n heini i roi cynnig arni – o chwaraewyr profiadol i’r rhai sydd erioed wedi chwarae o’r blaen.

Mae croeso i bawb ymuno a’n sesiynau ymarfer yng Nghanolfan Brailsford, rhwng 8yh a 9yh pob nos Fawrth. Mae’r sesiwn gyntaf yn rhad ac am ddim.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu, cysylltwch ag ysgrifennydd y clwb, Rhian Culley ar 07923 369859 os gwelwch yn dda.