Gŵyl Bro Y Felinheli yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn

Mae’r ŵyl yn rhan o gyfres o wyliau Bro360 ar 3-5 Medi

gan Osian Owen

Mae Gŵyl Bro Y Felinheli yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn fel rhan o gyfres o wyliau Bro360 ar 3-5 Medi.

Yn ôl Lowri Jones o Bro360, y penwythnos hwn yw cyfle pob cymuned yng Nghymru i gynnal eu Gŵyl Bro eu hunain, a hynny er mwyn “ddathlu’r filltir sgwâr a brolio eu bro.”

Fesul pentrefi, plwyfi, trefi neu strydoedd, gall pawb gynnal rhywbeth bach (neu fawr!) a syml (neu uchelgeisiol!) i ddathlu hanes, talentau a phobol eu bro. I fwynhau yng nghwmni ein gilydd unwaith eto.

Lowri Jones, Bro360

Yn rhan o ŵyl bro’r Felinheli mae Sesiwn Stori a Symud gan Leisa Mererid, Sesiwn Farddoni, Sesiwn Ffotograffiaeth gan Kristina Banholzer, picnic ar lan y môr, helfa drysor, a chân neu ddwy gan Dylan a Neil.

Yn ogystal â hynny bydd stondinau lleol, yn cynnwys Gola, Bwyd Bendigedig Felinheli, Ffyj Mam, Meggan Lloyd Prys a Karen Webster.

Bydd yr ŵyl yn dechrau am 10:30yb, a bydd yn parhau hyd at ddiwedd y prynhawn. 

Croeso i bawb!