Mae Gŵyl y Felin yn ôl!

Ar ôl dwy flynedd hir, bydd yr ŵyl yn ei hôl yn 2022

gan Osian Owen
170718-aGŵyl y Felinheli

Mae Gŵyl y Felinheli wedi cyhoeddi y bydd yr ŵyl 8 niwrnod yn dychwelyd ar ôl dwy flynedd hir.

 

Gorfodwyd y pwyllgor i ohirio’r ŵyl, sy’n rhan bwysig o galendr blynyddol trigolion y pentref, ddwy flynedd yn olynol oherwydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus.

 

Mae Gŵyl y Felinheli yn ŵyl unigryw, wyth niwrnod ar ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf bob blwyddyn. Mae’r wythnos (a mwy!) o ddigwyddiadau yn cynnwys Noson Lawen, Ffair Cynnyrch Lleol, Noson Caws a Gwin, Cwis, a diwrnod y Carnifal ei hun.

 

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ar ryw ffurf ers cyn co’, a 2020 oedd y tro cyntaf iddi beidio â chael ei chynnal ers degawdau.

 

Bydd y degau o weithgareddau a fydd yn rhan o ŵyl 2022 yn cael eu cyhoeddi ar wefan Bangor Felin 360 ac yn Goriad yn agosach at yr ŵyl, ond am y tro, mae’r pwyllgor wedi cyhoeddi dyddiadau’r ŵyl.

 

Felly heidiwch i’r lan môr yn y Felinheli rhwng 24 Mehefin – 2 Gorffennaf 2022.

 

Fedrith y pwyllgor ddim aros, beth amdanoch chi!?