Nadolig y Felinheli’n nôl!

Mae’r dathliad blynyddol yn ei ôl

gan Osian Owen
Untitled-design-15Gŵyl y Felinheli

Mae Gŵyl y Felinheli wedi cyhoeddi manylion y dathliad Nadolig blynyddol.

Ymunwch â’r ŵyl i ddathlu’r Nadolig yn Neuadd Goffa’r Felinheli, lai nag wythnos cyn y diwrnod ei hun ar y 19eg o Ragfyr am 5 o’r gloch.

Ar ôl canslo’r digwyddiad yn 2020, mae’r noson o ganu carolau yn ei ôl. Wedi ei gynnwys yn y pris mynediad mae mins pei a gwin cynnes, a bydd ymweliad gan unigolyn pwysig iawn ar gyfer y plant!)

Felly dewch ynghyd i ddathlu’r Nadolig fel cymuned unwaith eto. Cliciwch ‘yn mynd’ neu ‘going’ ar y digwyddiad Facebook hwn.