Gŵyl Bro BangorFelin !!

Darllediad byw o’r hwyl yn Y Felinheli!

Brengain Glyn
gan Brengain Glyn
240877762_1219723468503173-1

Mae’r stondinau wedi eu gosod, a mae pawb yn barod am y weithgaredd gyntaf : ioga efo Leisa Mererid! Ymunwch efo ni drwy gydol y dydd am weithgareddau hwyl ac i gael cip ar dalent trigolion Y Felinheli!

13:23

Cyfle i drio Ffyj Mam, a phrynu bag (neu ddau)!

13:20

Pwyll Glyn wedi mwynhau’r bora’, ac yn edrych ymlaen at weithgareddau’r prynhawn!

12:54

image

Cardiau Martha Owen (GanMartha) ar werth yma hefyd! 

Sganiwch y CôdQR i gael cip ar y wefan.

12:50

Lluniau Anna Gwenllian ar ddangos.

Magwyd Anna yn Y Felinheli, ac mae hi’n creu lluniau, cardiau, gwahoddiadau priodas ac yn cymryd comisiynau!

12:37

Gweithdy barddoni efo Oisan Owen newydd orffen.

Oeddech chi’n gwybod bod ‘Y Felinheli’ yn gynghanedd lusg?!

11:27

Leisa Mererid yn diddanu’r plant efo’i Sesiwn Stori a Symud! Barod am Sesiwn Barddoni’r oedolion gan Osian Owen, a gweithdy fforograffiaeth Kristina Banholzer!

11:21

6ABD8A1E-78A0-4E02-AA89
04F4DE9F-CC18-4ED4-AEE3

Mwy o luniau o’r stondinau

11:19

Barod am y bobl!

11:16

Gweithgareddau heddiw:

10:30 – Sesiwn Stori a Symud gyda Leisa Mererid

Barddoni gyda Osian Owen

11:00 – oedolion

14:00 – pobl ifanc 11+

11:30 – Ffotograffiaeth gyda Kristina Banholzer

Y Picnic Mawr – 12:30 – 14:00

Helfa Drysor – 14:30 -16:00

Dylan a Neil – 16:00