Galw am gynllun tymor hir i ddatrys “sgandal” Parc Bryn Cegin

Mae AS lleol wedi ymateb i’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i werthiant dau blot

gan Osian Owen
pics-image-8-210077008

Wrth ymateb i’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i werthiant dau blot ym Mharc Bryn Cegin, mae Siân Gwenllian AS wedi codi’r mater ar lawr y Senedd unwaith yn rhagor, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi “cynllun tymor hir.”

 

Mewn cyfarfod llawn o’r Senedd yr wythnos hon, gofynnodd Siân Gwenllian i Lesley Griffiths AS, y Gweinidog dros ogledd Cymru, ddiystyru honiadau yn y wasg fod bwriad gan Lywodraeth Cymru i werthu’r parc, neu rannau o’r parc. Ymatebodd y Gweinidog gan alw’r pennawd newyddion yn “gamarweiniol”, a bod “gwerthiant dau blot wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidog yr Economi.”

 

Ymatebodd Siân Gwenllian, gan honni bod sefyllfa Parc Bryn Cegin yn “sgandal”;

 

“Mae hi’n sgandal, onid ydy, nad oes yna’r un swydd wedi cael ei chreu yn y parc yma ar ôl bron 20 mlynedd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru?

 

“Felly, a gaf i ofyn i chi, fel Gweinidog y gogledd, beth ydy’r cynllun hir dymor ar gyfer y parc yma? Ac ydy’r gwerthu’r plotiau yma yn newyddion da, neu a ydy o’n arwydd bod y Llywodraeth wedi rhoi’r ffidil yn y to yn llwyr o ran denu gwaith i’r safle pwysig yma?”

 

Ymatebodd y Gweinidog gan ddweud bod y safle wedi’i nodi fel cyfle datblygu posib yng nghytundeb twf gogledd Cymru, a bod y Llywodraeth yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Gwynedd.