“Lle del yw’r Felinheli!”

Pobol Felin yn dysgu cynganeddu

gan Osian Owen
241447711_121169743594303

Fel rhan o Ŵyl Bro’r Felinheli ddydd Sadwrn, cafodd rhai o bobol y Felin flas ar gynganeddu.

 

Yn y sesiwn, cymrodd y criw eu cam cyntaf ar y daith at gynganeddu.

Mi edrychwyd ar ambell enghraifft o gynganeddion damweiniol ar arwyddion ffyrdd, pecynnau bwyd, ac hyd yn oed ar ffrwd Twitter Nigel Farage!

Mi sylweddolwyd hefyd bod enw ein pentref, Y Felinheli, ei hun yn gynghanedd!

Canwyd clod i’r pentref hefyd;

 

Lle del yw’r Felinheli!

Ac mi gafwyd plyg i fenter newydd Y Llofft;

Yn y Felin, cawn ginio!

Mi gafodd Gwil John chwip o linell, a sbardunodd drafodaeth ddifyr;

Yn Felin, nid wyt unig.

Mae’n wir wrth gwrs, ond i lygad cynganeddwr gall y llinell edrych yn rhyfedd. Llusg ydi hi, wrth gwrs, ond byddai rhai’n dadlau nad yw’r “in” yn Felin yn odli efo’r “un” yn unig. Mi benderfynwyd mai “inig” yw’r ynganiad llafar o “unig” yn y Felinheli bellach, ac felly mae’n llinell gywir i’r glust.

Diolch i bawb ddaeth i’r sesiwn, a diolch i drefnwyr Gŵyl Bro’r Felinheli.