Felin yn ennill ym Mlaenau

Triphwynt gwerthfawr i Felin yng nghyngrair Ardal Gogledd Orllewin

gan Gwilym John
IMG_20211218_151050

Diwrnod hyfryd o Ragfyr ym Mlaenau Ffestiniog

Amaturiaid Blaenau 0 Felinheli 1

Roedd Blaenau ar waelod y tabl, a Felin ryw ddau/dri safle yn uwch, ond toedd neb o Felin yn disgwyl gêm hawdd. A toedd hi ddim chwaith.

Gêm ddigon diflas a di-fflach yn heulwen Blaenau Ffestiniog. Rhaid rhoi clod i Euron, rheolwr Felin, am eilyddio craff ac effeithiol yn yr ail hanner. Dau o’r sybs, Ifan Emyr a Carwyn Dafydd yn cyfuno i rywsut roi y bel yn y rhwyd o gic cornel yn y munudau olaf.

Rhaid hefyd rhoi mensh i Guto Hughes y golwr am gadw Felin yn y gêm.

Buddugoliaeth bwysig felly, gyda Felin bellach yn ddeuddegfed yn y tabl (allan o 16), ac mewn sefyllfa go lew o gyffyrddus yn mynd i fewn i 2022.

Nid yw hi’n glir pa bryd fydd y gêm nesaf, yn dilyn y cyfyngiadau Covid a gyhoeddwyd yn ddiweddar.