Pêl-droed Hwyl yr Haf

Cyflwyno’r gêm i blant 5-11 oed

William Owen
gan William Owen

Mae’n bleser gan Glwb Pêl-droed Bangor 1876 gyhoeddi byddwn yn cyflwyno cyfres o sesiynnau Pêl-droed Hwyl yn rhad ac am ddim ar Faes 3G Treborth i gyd-fynd ac ymgyrch Cymru yn yr Ewros. Byddwn yn cychwyn ar nos Wener 11 Mehefin am bedair wythnos gan ddechrau am 1800. ‘Rydym yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru am ein gwahodd i gymryd rhan yn yr ymgyrch i gyflwyno’r gêm i blant rhwng 5 ac 11 oed.

 Cofrestrwch eich plant ar funfootball.cymru