Dathlu 125 mlwyddiant Pier y Garth

Mae plac arbennig wedi ei roi i nodi’r achlysur

gan Osian Owen
Unknown

Disgyblion Ysgol Hirael ar y Pier ym Mangor yn cyflwyno’r arwydd i Faer y Ddinas, y Cyngh Owen Hurcum

Arwydd-Pier-Bangor

Er mwyn dathlu 125 mlwyddiant Pier y Garth, mae plant Ysgol Hirael wedi creu plac arbenning.

Dylunwyd y plac gan blant yr ysgol, a chafodd ei greu gan Wasanaeth Oedolion Cyngor Gwynedd ar eu peiriant laser arbennig ym Mharc Glynllifon.

Arwydd-Pier-Bangor

Mae’r Cynghorydd lleol dros yr ardal, Huw Wyn Jones, wedi ymateb;

Fel y Cynghorydd lleol, roedd hi’n bleser ymuno â’r disgyblion a’r staff i nodi’r flwyddyn bwysig a chroesawu Maer y Ddinas, y Cynghorydd Owen Hurcum i dderbyn y plac pren ganddynt. Llongyfarchiadau mawr i bawb oedd yn rhan o’r prosiect pwysig yma!