“Dathlu dychweliad araf yn ôl i’r llwyfan” yw bwriad cynhyrchiad Ysgol Glanaethwy

Bydd Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan yn cael ei dangos dros bedair noson

gan Osian Owen

Mae Ysgol Glanaethwy yn bwriadu “dathlu dychweliad araf yn ôl i’r llwyfan” gyda’u llwyfaniad o un o ddramâu William Shakespeare’r wythnos hon.

Bydd y perfformiad yn digwydd yn yr awyr agored, a hynny ar dir Ysgol Glanaethwy.

Yn ôl y Cyfarwyddwr Cerddorol Cefin Roberts “hon yw’r ddrama fwyaf ffantasïol a sgwennodd William Shakespeare erioed”, a bydd yr ysgol berfformio ym Mangor yn llwyfannu cyfieithiad Gwyn Thomas o’r ddrama.

Llwyfennir y ddrama mewn arddull bromenâd, ac mae croeso i’r sawl sy’n mynychu ddod â phicnic eu hunain.

Bydd y perfformiadau yn dechrau am 7pm ar nosweithiau Awst 11, 12, 13 a 14. Mae’r tocynnau’n costio £10 i oedolion a £5 i blant ysgol, ac er y bydd taliadau’n cael eu cymryd ar y noson, nifer cyfyngedig o seddau sydd ar gael felly mae’n bwysig hysbysu Ysgol Glanaethwy o’ch bwriad i fynychu.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am archebu, canllawiau Covid-19, a rhagofalon tywydd, dylech gysylltu â Rhian o Ysgol Glanaethwy ar glanaethwy@hotmail.com.