Cyhuddo gweithiwr gofal o Fangor o yfed a gyrru i’r gwaith

Bydd yn ymddangos gerbron gwrandawiad addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru’r wythnos nesaf

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae gweithiwr gofal cartref o Fangor wedi cael ei gyhuddo o yfed a gyrru i’r gwaith.

Bydd yn ymddangos gerbron gwrandawiad addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru’r wythnos nesaf.

Mae Christine Roberts o dorri Polisi Gyrru Gwaith ei chyflogwr trwy yfed alcohol cyn ei shifft a gyrru i’r gwaith pan nad oedd hi’n ffit i wneud hynny.

Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o fethu â gwisgo masg wyneb bob amser wrth ddarparu gofal a chymorth.

Bydd y gwrandawiad tridiau yn cael ei gynnal dros Zoom o 9yb, 29 Tachwedd 2021.