Cwmni angladdau newydd wedi ei ysbrydoli gan brofiadau o “angladdau amhersonol”

Mae’r cwmni o Fangor yn disgrifio eu hunain fel “cwmni trefnu angladdau modern a moesol”

gan Osian Owen
241257082_10158112028081666

Wedi ei gynnwys gyda chaniatâd Angladdau Enfys

Mae cwmni trefnu angladdau newydd wedi ei sefydlu ym Mangor, sy’n cynnig gwasanaeth “modern a moesol.”

Yn ôl neges ar y cyfryngau cymdeithasol, sefydlwyd y cwmni “ar ôl profiad personol o angladdau amhersonol.”

Bwriad Angladdau Enfys yw cynnig gwasanaethau dathliadol ar gyfer angladdau.

Yn ôl un o sefydlwyr y cwmni, maent “yn y broses o adnewyddu adeilad newydd”, ac maent yn gobeithio agor erbyn mis Tachwedd.

Gallwch ddilyn y cwmni ar eu tudalen Instagram @angladdayenfysfunerals