Canslo dathliad Nadolig y Felinheli

Mae’r pwyllgor wedi gwneud y penderfyniad anodd

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli

Mae pwyllgor Gŵyl Y Felinheli wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo ein dathliad Nadolig eleni.

Roedd y noson i fod i ddigwydd lai nag wythnos cyn diwrnod Nadolig. Mae canllawiau hunanynysu wedi newid oherwydd amrywiolyn Omicron, ac nid yw’r ŵyl yn dymuno bod yn gyfrifol am deuluoedd y pentref yn methu â dod at ei gilydd i ddathlu diwrnod Nadolig.

Mae’n ddrwg gennym. Edrychwn ymlaen at weld wythnos yr ŵyl yn dychwelyd yn 2022.