Mae’r Aelod o’r Senedd dros dinas Bangor wedi talu teyrnged i gasgliad o luniau sy’n portreadu bywyd yn Hirael yn 1970au gan y ffotograffydd Garry Stuart.
Cyhoeddir ‘Hirael, North Wales – 1976’ gan Café Royal Books ac mae detholiad o’r ffotograffau yn cael eu harddangos yn Bwyd Da Bangor ar Stryd Fawr Bangor.
Ar ymweliad diweddar â’r fenter fwyd, galwodd y gwleidydd y casgliad yn “archif o gymuned glòs, Gymraeg.”
Mae’r lluniau yn y casgliad yn dyddio’n ôl i 1976, pan oedd Garry’n fyfyriwr ôl-radd ym Mangor.
Ymatebodd Siân Gwenllian i’r casgliad wrth ymweld â Bwyd Da Bangor:
“Rwy’n falch o weld bod y lluniau yn Bwyd Da Bangor, ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd hel atgofion am gymuned bwysig o fewn Bangor.
“Yn ddiweddar, bûm mewn cyswllt â Garry i ddiolch am y casgliad, casgliad sy’n archif o gymuned glòs, Gymraeg.
“Oherwydd ei threftadaeth gyfoethog fel canolbwynt diwydiannol, mae ardal Hirael yn parhau i fod o arwyddocâd hanesyddol mawr.
“Mae’r ffotograffau yn rhan o’n hanes cymdeithasol.
“Cefais innau fy magu yn y Felinheli, pentref wedi’i wreiddio yn y traddodiad diwydiannol balch, ac mae gweld y lluniau yn dod ag atgofion dymunol o blentyndod hynod yn ôl. Y bobl, y sibols sy’n gwneud cymunedau fel Hirael, cymeriadau fel y rhai sy’n cael eu portreadu yn y llyfryn.
“Yn ddiweddar es i draw i arddangosfa’r arlunydd lleol Pete Jones, darnau wedi’u hysbrydoli gan atgofion o’i blentyndod yn Hirael, cymuned sydd â thraddodiad o ysbrydoli artistiaid.
“Isalaw, er enghraifft, yr emynydd enwog, a ddechreuodd ar ei daith ysbrydol yn ei gartref yn Ffordd Lan Môr, Hirael.
“Hoffwn ddiolch i Garry am y cyfle i hel atgofion am gyfnodau hapus iawn yn Hirael yn ystod fy nghyfnod fel disgybl yn Ysgol Ramadeg Merched Bangor.
“Rwy’n siŵr y bydd y lluniau yn rhoi dos go dda o hiraeth i lawer o drigolion Bangor.”