Agor y Stryd Fawr gam yn nes

Dau adeilad wedi dod i lawr

William Owen
gan William Owen
Y craen melyn wnaeth ddechrau'r gwaith
Y craen mawr wedi mynd
Y jac codi baw sy'n gorffen y gwaith

Fydd hi ddim yn hir cyn y bydd Stryd Fawr Bangor ar agor.  Roedd y Cyngor Sir wedi addo y byddai’r gwaith ar dynnu’r sgaffaldiau yn dod i ben ym mis Mai. Mae’r ddau adeilad a losgodd flwyddyn a hanner yn ôl wedi dod i lawr. Eu clirio y mae’r gweithwyr erbyn hyn.

Erbyn mis Mehefin mae gobaith y bydd i gerbydau fynd ar hyd y stryd eto.