CPD Y Felinheli

Colli gartref yn erbyn Rhostyllen

gan Gwilym John

CPD Y Felinheli 1  Rhostyllen 2

Cae Seilo, Tachwedd 27in

Nid oedd gan Felin gêm Sadwrn ddiwethaf, ond colli gartref oedd yr hanes yr wythnos gynt.

Sgoriodd Gavin ar ol hanner awr i ddod a Felin yn gyfartal, ond yn dilyn nam amddiffynnol jest cyn hanner amser, aeth yr ymwelwyr ar y blaen 2-1.

Ac er i Felin frwydro yn galed drwy’r ail hanner, ac yn creu cyfleon, dyna oedd y sgor terfynnol. Gweler y fideos yn dangos gôl Felin, ac un o’r cyfleoedd.

Dwy gêm oddicartref nesaf, Llanrwst ar yr 11eg, a Blaenau Ffestiniog yr wythnos wedyn. Yna “local derby” ar ddydd San Steffan (dydd Sul) yn Seilo am 2:00pm.

Buasai cael saith bwynt o’r dair gêm yma yn anrheg Nadolig dderbyniol iawn!