Newid enwau Cymraeg ddim yn hen broblem.

Mae cwyno’r dyddiau hyn am newid enwau lleodd Cymraeg yn rhai Saesneg, a dyma erthygl o 1916 yn tynnu sylw at yr un peth yn union.

Goriad
gan Goriad

Hen arfer digywilydd a thaeog yw newid enwau lleoedd a thai Cymraeg yn rhai Saesneg. Tydi o ddim yn arfer newydd: dyma erthygl o 1916 yn cwyno am yr arfer, gan gynnwys troi’r Felinheli yn “Port Dinorwic”. Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru’n crybwyll “Sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a’u hyrwyddo”, felly mae angen dal y Llywodraeth wrth hynny a sicrhau gweithredu i atal hyn rhag digwydd rhagor.