CPD Y Felinheli yn cael 3 pwynt arall 

Felin 1 Rhydymwyn 0

gan Gwilym John

Sgoriodd Ryan Cain gol ryfeddol hanner ffordd drwy’r ail hanner, a sicrhau tri-phwynt gwerthfawr i CPD Y Felinheli. Rhedodd gyda’r bel o’i hanner ei hun ac i fewn i flwch cosbi Rhydymwyn, cyn plannu’r bel yng  gefn y rhwyd.

Ar ddiwrnod tamp annifyr, a gyda’r glaswellt angen ei dorri (roedd y torrwr gwair yn sal!), roedd yr ornest wedi bod yn eithaf cyfartal ar y cyfan, a chyfleon yn brin. Ond daeth Ryan a fflach o oleuni ar ddiwrnod tywyll o Hydref i godi calon y cefnogwyr cartref.

Efallai ddyla Felin wedi mynd ymhellach ar y blaen cyn ddiwedd y gêm, yn methu manteisio ar nifer o gyfleoedd, gan wneud y munudau olaf yn nerfus i bawb.

Golyga hyn i gyd fod Felin bellach yn 12ed safle yn y gynghrair, ac yn edrych yn eithaf cyffyrddus uwchben y safleoedd lle mae peryg disgyn allan o’r gynghrair ddiwedd tymor.

Bydd Rhostyllen yn Seilo am 2:00 dydd Sadwrn nesaf. Dewch i gefnogi