Tair iaith ar fwrdd gwybodaeth newydd Bangor

Mae’r bwrdd newydd yn Gymraeg, Saesneg a Japaneeg

gan Osian Owen
info-boardCyngor Dinas Bangor

Heddiw fe ddadorchuddiwyd Bwrdd Gwybodaeth newydd ar Gaeau Ashley gan Faer Bangor, y Cyng. Owen J Hurcum, a Kumi Sunada, Pennaeth Rhaglen y Trinity Foundation.

Mae’r bwrdd newydd yn dairieithog, gyda’r wybodaeth yn ymddangos mewn Cymraeg, Saesneg a Japaneeg. Mae’r bwrdd yn trafod hanes y caeau, y coed Sakura Japaneaidd, yn ogystal â hanes Ashley Jones.

Cyfreithiwr ym Mangor oedd Ashley Jones a adawodd y caeau yn rhodd i ddinas Bangor ar achlysur ei farwolaeth yn 1939.

Yn ôl Maer Bangor, Owen J. Hurcum, mae’r Cyngor, “wedi gweithio’n galed i wella’r caeau yn 2021 a bydd y Bwrdd newydd yn ychwanegiad da i goed Sakura Japan a mainc gyfeillgarwch y Beatles, a osodwyd yn y caeau.”

Noddwyd y Bwrdd Gwybodaeth gan y Trinity Foundation, ac yn ôl Kumi Sunada, pennaeth yr ymddiriedolaeth, mae rhaglen y Trinity Foundation yn cynnig “help, cefnogaeth a chyngor i fyfyrwyr Japaneaidd sy’n astudio ym Mangor, ac yn darparu rhaglen arbenigol cyn i’r myfyrwyr ddechrau ar eu hastudiaethau gradd.”

Cofiwch ymweld â’r bwrdd, a thagio @BangorFelin360 mewn unrhyw luniau!