CPD Y Felinheli yn rhannu wyth gôl 

gêm gyfartal 4-4 yn Llai 

gan Gwilym John
IMG_20211016_132426

Yr hogia yn gobeithio fydd hi ddim yn sgor criced cyn y gêm

Bu epic o gêm ochrau Wrecsam dydd Sadwrn diwethaf, gyda Felin chydig yn anlwcus i beidio cipio y tri-phwynt. Llwyddodd y tim cartref i ddod â’r gêm yn gyfartal yn y munudau olaf.

Rhys “Archie” gafodd gol gyntaf i ddod a Felin yn gyfartal 1-1 hanner amser. Yna Gruff yn dod a Felin yn ol i 2-2, o groesiad gan Gavin. Iw Bonc wedyn yn creu havoc wrth i amddiffynnwr Llai droi y bel i’w gol ei hun, 3-3. Cyn i Gavin wedyn benio croesiad Iw Bonc i roi Felin ar y blaen.

Awn ni ddim i son am ryw gymeriad ddigon annymunol oedd yn chwarae i Llai ac yn poeri ar bawb. Prynnwch Goriad mis nesaf!

Er colli y record 100% mis Hydref, nid yw Felin wedi colli eto y mis yma. Ac yn gorwedd yn ddigon parchus yn y 12ed safle yn y gynghrair.

Fydd trip i Ddinbych Sadwrn nesaf yn anodd yn erbyn yr hogia pres mawr. Ond mae pethau ar i fyny yn y Felinheli ar hyn o bryd.