Podlediad Gŵyl UMCB

Podlediad gan Tegwen Bruce-Deans, myfyrwraig 3edd blwyddyn i’ch cyffroi chi at Gŵyl UMCB 

Mabon Dafydd
gan Mabon Dafydd

I ddathlu Wythnos Shwmae Su’mae eleni mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor wedi mynd ati i drefnu Gŵyl o gwmpas y ddinas. Y lleoliadau fydd Tafarn Y Glôb, Tafarn Paddys, Academi a Pontio.

Bydd y ‘lein-yp’ yn cynnwys amrywiaeth o artistiaid a bandiau lleol sy’n cynnwys Yr Eira, Alffa, Kim Hon, Mali Hâf a Dafydd Hedd. Er mwyn eich cyffroi chi ar gyfer yr ŵyl aeth Tegwen Bruce-Deans, myfyrwraig trydedd blwyddyn yma ym Mangor ati i recordio podlediad.

Mae’r podlediad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y bandiau a’r artistiaid fydd yn chwarae yn ogystal a chân gan bob un ohonynt. Fedrwch chi ddarganfod y linc i’r podlediad uchod.

Mae’n argoeli i fod yn chwip o benwythnos ym Mangor a mae’r podlediad yma’n cyfleu hynny’n berffaith.