Cwmni teiars ym Mangor yn mynd “o nerth i nerth” ar ôl cyfnod tawel Covid

Sefydlwyd Gwasanaeth Teiars Bangor ym 1987 

gan Osian Owen
teiars

Siân Gwenllian AS, Stuart o Wasanaeth Teiars Bangor, a Gareth Roberts

Sefydlwyd Gwasanaeth Teiars Bangor ym 1987 gan ddau ddyn lleol, ac fe’i lleolwyd yn wreiddiol y tu ôl i hen Westy’r Rheilffordd cyn symud ym 1992 i’w leoliad presennol ar Ffordd Caernarfon.

Adeiladwyd y cyfleusterau presennol ar y safle yn ystod 2011/2012.

 

Fel llawer o fusnesau eraill, cafodd Gwasanaeth Teiars Bangor gyfnod tawel y llynedd, wrth i geir aros yn segur yn ystod y cyfnod clo. Ond mae’r cwmni bellach yn mynd o nerth i nerth, ac yn ôl y cwmni mae pobl leol yn parhau i’w cefnogi.

 

Aeth Siân Gwenllian AS a Gareth Roberts, y cynghorydd sir dros ward Dewi, draw i’r safle yn ddiweddar.

 

Yn ôl Gareth;

 

“Dwi’n falch iawn o weld busnes teuluol llwyddiannus sydd wedi creu swyddi o ansawdd da i bobl leol.

 

“Roedd yn wych clywed eu bod yn gobeithio ehangu’r busnes yn y blynyddoedd nesaf.”

 

Dywedodd Siân Gwenllian AS, a fu’n Bencampwr Busnesau Bach Gwynedd yn ystod ei chyfnod fel cynghorydd;

 

“Mae hwn yn gyfle gwych i atgoffa pobl o’r manteision o gefnogi busnesau lleol.

 

“Am bob £1 sy’n cael ei wario mewn busnesau annibynnol, mae 63c yn aros yn yr economi leol. Yma ym Mangor.

 

“Mae’n wych clywed eu bod nhw wedi goroesi Covid, a bod pobl leol yn parhau i gefnogi’r busnes lleol hwn.”