Felin yn ennill unwaith eto

record 100% ym mis Hydref hyd yn hyn!

gan Gwilym John

Am yr ail Sadwrn yn olynol yn “San” Seilo, llwyddodd Felin guro tîm o ardal Wrecsam 3-2. Brymbo oedd y diweddaraf i fynd yn ôl ar yr A55 tua’r dwyrain yn waglaw.

Iwan Bonc, Gavin Jones, a Rhys “Archie” Parry sgoriodd y goliau pwysig. Mae Felin ar hyn o bryd yn yr 11eg safle yng Nghyngrair “Lock Stock” Ardal Gogledd Orllewin gyda 10 pwynt mewn 10 gêm.

Derbyniodd amddiffynnwr Brymbo gerdyn coch yn dilyn ei wrthwynebiad i ail gôl Felin, yn honni fod Gavin yn camsefyll. Ond mae tystiolaeth camera yn dangos fel arall (diolch i Pat a Jack Cain)

Dau drip oddi cartref fydd nesaf, i Llai ar yr 16eg, a Dinbych yr wythnos wedyn. Bydd cadw record 100% Hydref yn anodd.