Hoci: Gêm gyfartal siomedig i dîm dynion Bangor

Adroddiad Gêm: Bangor 4 Clwb Hoci Northern 4

Tomos Hughes
gan Tomos Hughes

Adroddiad Gêm: Bangor 4 Clwb Hoci Northern  4

Er i dîm hoci dynion Bangor fod ar y blaen o dair gôl i ddim yn erbyn Clwb Hoci Northern o Lannau Ferswy ar ddydd Sadwrn, fe orffennodd y gêm yn gyfartal rhwng y ddau dîm yn y pen draw.

Fe ddechreuodd y Gleision ar dan, gan sgorio tair gwaith o fewn chwarter awr yn erbyn yr ymwelwyr, a deithiodd i Fangor gyda 10 chwaraewr yn unig.

Fe sgoriodd Harry Collins-Jones gydag ergyd taclus wedi pedwar munud, i roi Bangor ar y blaen. Ychydig funudau’n ddiweddarach, fe sgoriodd Dave Paterson i ddyblu’r fantais, cyn i Vasishk Patil rwydo’r trydydd gyda’i gôl gyntaf dros y clwb.

Daeth Bangor yn agos i ychwanegu at y fantais, gyda Will Hall a Tom Hughes yn gorfodi arbediadau gan y golwr. Ond fe lwyddodd Northern i osgoi unrhyw gosb bellach ac yn araf deg, fe ddaeth yr ymwelwyr mewn i’r gêm yn fwyfwy, gan sgorio un gôl cyn yr egwyl.

Roedd Bangor yn edrych yn dda ar ddechrau’r ail hanner hefyd, ac fe sgoriodd Dave Paterson ei ail i wneud hi’n 4-1, ar ôl pas wych gan y capten Paul McCallum.

Ond er tegwch i Northern, wnaethon nhw ddim rhoi’r ffidil yn y to. Fe sgoriodd eu hail o’r gêm gydag ergyd wedi ei wyro’n ffodus heibio’r golwr Keith Proudlove.

Er i Fangor barhau ymosod, roedd yr ymwelwyr hefyd yn fygythiad, ac fe wnaethon nhw sgorio eto gyda 15 munud i fynd, i ddod nôl o fewn un gôl.

A phum munud wedyn, roedden nhw’n gyfartal, gydag ergyd cywir arall. Er ymdrechion Bangor i gipio gôl fuddugol ym munudau ola’r gêm, fe lwyddodd Northern i ddal y tîm cartref allan a hawlio pwynt gwerthfawr.

Bydd Bangor yn dychwelyd i’r maes ddydd Sadwrn nesaf i herio tîm West Darby, yn Lerpwl, mewn gêm oddi gartref yn Adran 4 Gorllewin o Gynghrair Gogledd Orllewin Lloegr.