Buddugoliaeth i CPD Y Felinheli o’r diwedd

Gavin Lloyd-Jones yn cael hatrig

gan Gwilym John

Daeth buddugoliaeth gyntaf Felin yng Nghyngrair Ardal “Lock Stock” Gogledd Orllewin yn eu nawfed gêm, wedi colli pedair a chael pedair gêm gyfartal cyn llwyddo i guro Brickfield Rangers o ochrau Wrecsam, 3-2.

Aeth Felin 3-0 ar y blaen gyda chwarter y gêm yn weddill, Gavin yn cael hatrig. Daeth y gyntaf o benalti yn yr hanner cyntaf ar ol i Rhys “Archie” Parry gael ei dynnu i lawr. Aeth hi’n 2-0 ddeg munud i fewn i’r ail hanner, gyda Gavin yn derbyn pas wych gan Iwan Eds a’i phlannu yng nghefn y rhwyd. A’r trydydd oedd yr orau- taran o ergyd o 25 llath, gol fendigedig.

Ond dau funud yn ddiweddarach, cafodd yr ymwelwyr un yn ol 3-1. A gyda’r cloc ar 90 munud, landiodd y bel yn rhwyd Felin yn dilyn sgrambl mawr, gyda hint go fawr fod llaw wedi cael ei ddefnyddio. Welodd y reff mohoni. Munudau pryderus iawn oedd y rhai gafodd eu hychwanegu ar gyfer anafiadau, ond roedd y bloedd pan aeth y chwiban yn adrodd cyfrolau, pa mor bwysig oedd cael tri-phwynt o’r diwedd.

Roedd hi yn tywallt y glaw yn ddibaid o ddechrau y gêm i’r diwedd, ond doedd neb yn poeni am hynny ar ol cipio’r fuddugoliaeth.